Mwy o Newyddion
Noson euraid i Jade Jones a thîm pêl-droed Cymru
Cafodd y Bencampwraig Taekwondo Olympaidd Dwbl, Jade Jones, ei dewis neithiwr yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2016 BBC Cymru yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru.
Derbyniodd y ferch ifanc 23 oed o’r Fflint y tlws gan Syr Gareth Edwards yn y seremoni yng Nghaerdydd.
Cafodd Jones ei dewis gan y cyhoedd yng Nghymru ar ôl ennill aur Olympaidd yn Rio yr haf yma, gan gadw’r teitl a gipiodd yn Llundain 2012.
Dyma’r eildro i Jones ennill y wobr anrhydeddus yma, ar ôl ei hennill yn 2012 hefyd.
Hi yw’r wythfed person i ennill y teitl fwy nag unwaith, gan ymuno â chlwb elité sy’n cynnwys Ryan Giggs, Howard Winstone, Colin Jackson, y Farwnes Tanni Grey-Thompson, Ian Woosnam, Joe Calzaghe a Lynn Davies.
Ac, ar ôl cyrraedd rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Bêl Droed Ewrop yn eu twrnamaint mawr cyntaf ers 1958, Tîm Pêl-Droed Dynion Hŷn Cymru gipiodd wobr Tîm y Flwyddyn.
Hefyd rhoddwyd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig i reolwr Cymru, Chris Coleman, y meddwl mawr y tu ôl i lwyddiant y tîm yn Ewro 2016.
Daeth Chwaraeon Cymru a BBC Cymru at ei gilydd unwaith eto i gynnal dathliad chwaraeon blynyddol mwyaf y wlad yn Neuadd Hoddinott, rhan o Ganolfan Mileniwm Cymru, ym Mae Caerdydd.
Yng Ngwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru, daeth Jade Jones i frig y bleidlais gyhoeddus, ar y blaen i Gareth Bale, a ddaeth yn ail, ac Elinor Barker yn y trydydd safle.
Cafodd eraill eu gwobrwyo am gyflawniadau arbennig yn y byd chwaraeon yng Nghymru hefyd.
Yr enillwyr oedd:
- Hyfforddwr y Flwyddyn – Robin Williams (Rhwyfo)
- Gwobr Cyflawniad Oes (Élite) – Billy Boston (rygbi’r gynghrair)
- Gwobr Cyflawniad Oes (Cymunedol) – Nick Evans (Criced, Sir Benfro)
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Chris Landon (Beicio, Caerdydd)
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn – Joseph Jones (Aml-gamp, Llandudno)
- Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn – Daniel Johnsey (Nofio/Ffitrwydd, Sir Fynwy)
- Athletwr Iau y Flwyddyn Carwyn James – Jake Heyward (Athletau)
- Athletwraig Iau y Flwyddyn Carwyn James – Lauren Williams (Taekwondo)
- Hyfforddwr Pobl Anabl – Deb Bashford (Pêl-fasged Cadair Olwyn, Caernarfon)
- Arwr Tawel - Vicki Randall (Pêl-rwyd a Phêl-droed, Cwmbrân)
- Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn – Paul Crapper (Beicio, Y Fenni)
Hyfforddwr y Flwyddyn, Robin Williams, oedd y meddwl mawr tu ôl i’r 39 ras - yn cynnwys pencampwriaethau Olympaidd, byd ac Ewropeaidd - a enillwyd gan y pâr rhwyfo merched, Helen Glover a Heather Stanning, gan ddod i benllanw wrth iddyn nhw amddiffyn eu medal aur yn Rio.
Cyflwynwyd gwobr Cyflawniad Oes (Élite) i un o gewri rygbi'r gynghrair Prydain Fawr, Billy Boston. Sgoriodd yr asgellwr 82 oed, a aned yn nociau Caerdydd, a elwid yn Tiger Bay, gyfanswm nodedig o 478 o geisiadau yn ei 487 o gemau dros Wigan, y sgoriwr ceisiadau gorau yn hanes y clwb. Roedd hefyd yn arloeswr i chwaraewyr duon.
Dyfarnwyd anrhydedd y Cyflawniad Oes (Cymunedol) i Nick Evans – gŵr sy’n cael ei ganmol fel sbardun mawr i griced merched a hyfforddi cymunedol yng Nghymru.
Cafodd Chris Landon ei enwi’n Wirfoddolwr y Flwyddyn am ei waith yn trefnu digwyddiadau beicio ledled y wlad, a dyfarnwyd gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn i Joseph Jones am ei waith yn hybu iechyd a lles pobl ifanc yn ei gymuned yng Nghonwy.
Daniel Johnsey enillodd wobr Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn ar ôl gwella o’i anafiadau oedd yn bygwth ei fywyd i helpu i ysbrydoli pobl eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Dyfarnwyd gwobr Athletwr y Flwyddyn Carwyn James i redwr pellter canol 17 oed, Jake Heyward o Gaerdydd, a enillodd deitl 1500m Ieuenctid Ewrop. A’r athletwraig taekwondo, Lauren Williams o Gasnewydd, enillodd wobr Athletwraig y Flwyddyn Carwyn James ar ôl cipio’r aur ym Mhencampwriaethau Iau’r Byd a Phencampwriaethau Hŷn Ewrop yn 2016.
Sicrhaodd gwaith Deb Bashford i ddarparu chwaraeon ar gyfer pobl ag amrywiaeth o anableddau goron Hyfforddwr Pobl Anabl iddi.
Hyfforddwr pêl-rwyd a phêl-droed ysbrydoledig o Gwmbrân, Vicki Randall, dderbyniodd Wobr Arwr Tawel Chwaraeon BBC Cymru Wales. Bydd hi’n mynd yn ei blaen yn awr i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU, a bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod gwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ar BBC One Wales, nos Sul, Rhagfyr 18.
I gwblhau’r rhestr o enillwyr, enillodd Paul Crapper, sy’n hyfforddi cannoedd o ferched a phobl ifanc o bob oedran, wobr Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn.
Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Rydw i mor falch ein bod ni’n cael cymaint o lwyddiant yn y byd chwaraeon yng Nghymru a’n bod ni’n gallu hyrwyddo’r bobl sy’n wir arwyr.
"Yr unigolion yn y rownd derfynol yma heno ydi asgwrn cefn chwaraeon yng Nghymru. Mae pob athletwr wedi dechrau’n rhywle, mewn clwb cymunedol fel rheol, lle cafodd ei angerdd dros chwaraeon ei danio.
"Yr unigolion yma ar lawr gwlad sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gyfranogwyr, gwirfoddolwyr a hyfforddwyr. Maen nhw’n haeddu bod ar yr un llwyfan â’r athletwyr élite oherwydd hebddyn nhw ni fyddai chwaraeon yng Nghymru’n gallu datblygu cystal.”
Ychwanegodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Dydw i ddim yn gallu cofio blwyddyn gyda chwaraeon yn dod â’r genedl at ei gilydd fel digwyddodd yn 2016.
“Mae gan enillwyr y gwobrau i gyd straeon cwbl nodedig. Mae rhai wedi dod yn fuddugol ar lwyfan y byd o flaen cynulleidfaoedd enfawr ar y teledu, tra bo eraill wedi gwneud eu marc y tu ôl i’r llenni mewn clybiau cymunedol ar hyd a lled y wlad.”
“Ond maen nhw i gyd wedi ein hysbrydoli ni gyda’u talent, eu hangerdd a’u hymroddiad ac mae wedi bod yn fraint cael dathlu eu llwyddiannau nhw heno.”
Bydd Gwobrau Chwaraeon Cymru 2016 ar gael ar BBC iPlayer am y 30 diwrnod nesaf.
Llun: Jade Jones yn derbyn y wobr gan Syr Gareth Edwards