Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Rhagfyr 2016

Can mlynedd ers i Lloyd George ddod yn Brif Weinidog

Gan mlynedd union yn ôl i’r wythnos yma, yn anterth y Rhyfel Mawr, daeth David Lloyd George yn Brif Weinidog.

Roedd ‘Dewin Dwyfor’ eisoes yn enwog fel y Canghellor a gyflwynodd bensiynau i’r henoed ac fel aelod amlwg o lywodraeth ryddfrydol Herbert Asquith pan gafodd wahoddiad i ffurfio llywodraeth ym mis Rhagfyr 1916.

Y dyn a gafodd ei fagu gan ei ewythr yn Llanystumdwy, ac a etholwyd yn Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Arfon yn 1890, oedd y Cymro cyntaf, a’r unig un ers hynny, i ddal y swydd o Brif Weinidog Prydain.

Gan arwain Prydain trwy weddill y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn un o’r rhai a arwyddodd Gytundeb Versailles yn 1919, a pharhodd fel prif weinidog tan 1922.

Ar achlysur mor hanesyddol, mae amgueddfa Lloyd George a bwthyn Highgate, cartref ei blentyndod, yn Llanystumdwy yn fwrlwm o weithgareddau ar gyfer ysgolion lleol ar hyn o bryd.

Mae disgyblion yn cael gweld sut oedd plant yn dathlu’r Nadolig yn y cyfnod pan oedd David Lloyd George yn tyfu i fyny yn y pentref, a chyfle i wisgo dillad o’r cyfnod. Maen nhw hefyd yn cael gwneud gwaith llaw traddodiadol gyda Marian Grace Jones.

Mae Amgueddfa Lloyd George yn cynnwys trysorfa o greiriau wleidyddol y gŵr sy’n cael ei ei gydnabod fel un o’r areithwyr mwyaf huawdl ac ysbrydoledig erioed. Mae Highgate wedi ei ddodrefnu fel y byddai pan oedd Lloyd George yn byw yno, ac mae ei fedd hefyd gerllaw ar lannau afon Dwyfor.

“David Lloyd George oedd un o’r Cymry enwocaf erioed, ac mae’n briodol ein bod yn nodi achlysur mor hanesyddol,” meddai Nest Thomas, Rheolwr Amgueddfeydd a’r Celfyddydau i Gyngor Gwynedd.

“Roedd eisoes wedi gwneud enw iddo’i hun fel gwleidydd huawdl a diwygiwr cymdeithasol pan gyrhaeddodd anterth ei yrfa ym mis Rhagfyr 1916.

“Mae ei gysylltiad â Gwynedd yn gyfarwydd i bawb sydd wedi eu magu yma, a’i enw wedi bod yn rhan o’n chwedloniaeth ers cenedlaethau.

“Ac yntau’n ddyn mor bwerus, mae’n anochel ei fod yn ffigur dadleuol hefyd ar sawl ystyr, ond does dim amheuaeth o gwbl am ei allu a’i ddawn.

“Mae’r diddordeb a’r balchder yn hanes dyn mor ryfeddol sydd wedi codi o’n plith yn sicr o barhau yng Ngwynedd am flynyddoedd lawer i ddod.”

LLUN: Daeth David Lloyd George yn Brif Weinidog Prydain ganrif yn ôl

Rhannu |