Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Rhagfyr 2016

Canfod anghenion tai fforddiadwy yn ardal Penygroes

MAE trigolion sy’n byw ym mhlwyf Llanllyfni yn cael eu hannog i gwblhau arolwg anghenion tai lleol er mwyn cynorthwyo gyda’r gwaith o sefydlu’r math o dai y dylid eu datblygu ar gyfer yr ardal.

Yn dilyn gwaith ymchwil manwl, mae Penygroes wedi ei adnabod fel cymuned penodol lle mae prinder cyfleon i bobl allu prynu tai am y tro cyntaf ynghyd â chyflenwad o dai rhent addas.

Fel rhan o brosiect ar y cyd lle mae Cyngor Gwynedd yn ariannu y cynllun, a Grŵp Cynefin yn adeiladu tai ar safle yn yr ardal, mae Cyngor Cymuned Llanllyfni mewn cydweithrediad a Hwylusydd Tai Gwledig Gwynedd wedi comisiynu arolwg anghenion tai lleol i sefydlu union natur yr angen yn yr ardal ynghyd â’r diddordeb yn y cynllun cyffrous ar gyfer datblygiad cymysg o dai ar gyrion pentref Penygroes.

Meddai’r Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd: “Fel cyngor, rydan ni wedi ymrwymo i gynyddu’r cyflenwad ac amrywiaeth o dai er mwyn cwrdd ag anghenion pobl Gwynedd. Mae’r gwaith sy’n digwydd ym Mhenygroes yn ein galluogi i ymgysylltu gyda’r gymuned yn lleol i weld beth yn union ydi anghenion trigolion yr ardal.

“Yn yr hinsawdd economaidd heriol sydd ohoni, rydym yn awyddus I gydweithio gyda phartneriaid fel Grŵp Cynefin er mwyn datblygu clystyrau o dai fforddiadwy ar rent neu i’w prynu.

“Rwy’n hyderus fod y model yma yn cynnig cyfle da iawn i ni fel cyngor chwarae rôl bwysig yn y gwaith o sicrhau darpariaeth addas o dai i drigolion y sir.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards, sy’n arwain ar faes Tai ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac aelod lleol dros Benygroes: “Mae gweithio i sicrhau darpariaeth addas o dai sydd o fewn cyrraedd teuluoedd Gwynedd yn un o brif flaenoriaethau’r cyngor. 

“Mae’n debyg ein bod ni i gyd yn gwybod am deuluoedd ifanc sydd yn ei chael yn anodd tu hwnt i gael mynediad i’r farchnad dai. Yn wir mae’r ystadegau yn dangos fod cyfran sylweddol iawn o boblogaeth y sir wedi eu prisio allan o’r farchnad agored.

“Mae’r galw am dai addas yn cynyddu ac mae gofyn felly i ni feddwl yn greadigol i gynnig datrysiad. Dyna pam ein bod ni fel awdurdod yn falch o allu defnyddio grym ariannol y cyngor a chydweithio gyda phartneriaid i edrych am ffyrdd newydd a chyffrous i wella’r ddarpariaeth tai yn y sir.

“Rydym yn gwybod fod ardaloedd penodol lle nad oes yna dai newydd yn cael eu hadeiladu er fod yna awydd gwirioneddol gan bobl ifanc i gael cartref eu hunain er mwyn magu teulu yn eu cymuned.

"Rydym felly yn annog trigolion sy’n byw yn ardal Cyngor Cymuned Llanllyfni i gwblhau’r holiadur anghenion tai lleol sydd wedi ei ddosbarthu i gartrefi’r ardal – bydd y sylwadau sy’n cael eu cyflwyno yn sail ar gyfer datblygu’r math addas o dai a fydd yn cwrdd anghenion trigolion yr ardal.”

Mae arolwg tai angen lleol wedi ei ddosbarthu i gartrefi yn ardal Cyngor Cymuned Llanllyfni.

I gael dweud eich dweud, gofynnir i chi ddychwelyd yr holiadur i Swyddfa Grŵp Cynefin, Tŷ Silyn, Y Sgwâr, Penygroes, LL54 6LY, erbyn dydd Gwener, 9 Rhagfyr neu arlein: https://www.surveymonkey.co.uk/r/DVFPS3Y (Cymraeg)/ https://www.surveymonkey.co.uk/r/TB6GDCS (Saesneg).

Llun: Dyfed Edwards

Rhannu |