Mwy o Newyddion
Chris Coleman i dderbyn anrhydedd arbennig yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru
Bydd y gŵr a arweiniodd Cymru i rownd gynderfynol pencampwriaeth pêl-droed Ewrop yn cael ei anrhydeddu heno â Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2016.
Bydd rheolwr Cymru, Chris Coleman, yn derbyn y wobr am ei gyflawniadau arbennig yn gofalu am y tîm cenedlaethol, yn y seremoni fawreddog yn Neuadd Hoddinott, Bae Caerdydd.
Daeth y gŵr 46 oed, sy’n wreiddiol o Abertawe, yn arwr cenedlaethol ar ôl arwain Cymru i bencampwriaeth Ewro 2016, eu pencampwriaeth fawr gyntaf er 58 o flynyddoedd.
Yn y twrnamaint yn Ffrainc yn ystod yr haf eleni, cyrhaeddodd tîm Coleman y pedwar olaf, gan guro Gwlad Belg, Gogledd Iwerddon, Rwsia a Slofacia ar y ffordd.
O dan ei reolaeth, nid yw Cymru ychwaith wedi colli’r un gêm yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd gan orffen y flwyddyn yn y 12fed safle yn rhestr byd FIFA.
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Mae’r wobr arbennig hon yn anrhydedd priodol i ŵr a ddaeth â'r wlad at ei gilydd yr haf hwn.
"Ni fydd yr un ohonom yn anghofio’r wefr arbennig o ddilyn tîm anhygoel Cymru dan arweiniad Chris Coleman yng ngemau Ewro 2016.
"Bydd yn wych heno gweld ei gyflawniadau eithriadol yn cael eu dathlu mewn steil.”
Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr, Chwaraeon Cymru: “Mae Chris wedi bod yn ysbrydoliaeth i bobl Cymru sydd hyd yn oed wedi rhagori ar gyflawniadau chwaraeon ei dîm.
"Mae ei frwdfrydedd egnïol, ynghyd â’i anogaeth i freuddwydio, i ddysgu ac i lwyddo wedi cyffwrdd pobl ar draws y wlad.
"Bydd pob un ohonom yn cofio haf 2016 yn hir iawn. Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cydnabod ei gyfraniad drwy'r Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig hon.”
Gall cefnogwyr wylio Gwobrau Chwaraeon Cymru 2016 yn fyw ar wefan BBC Wales Sport, BBC iPlayer a’r Botwm Coch o 7.30 ymlaen heno. Mae'r digwyddiad hefyd yn fyw ar BBC Radio Wales.
Bydd pedair ar ddeg o wobrau yn cael eu cyflwyno yn y seremoni, gan gynnwys Tîm y Flwyddyn, Hyfforddwr y Flwyddyn, Cyflawniad Oes a Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales.
Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn ddigwyddiad sy’n cael ei drefnu mewn partneriaeth gan BBC Cymru a Chwaraeon Cymru. Mae’n anelu at gydnabod y cyflawniadau chwaraeon gorau ar lefel elît a chymunedol yng Nghymru.