Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Rhagfyr 2016

Grantiau hyrwyddo’r Gymraeg Ras yr Iaith

Yn dilyn Ras hynod lwyddiannus yng Ngorffennaf 2016, mae gan Ras yr Iaith gyfanswm o £12,000 i’w roi ar ffurf grantiau.

Mae’r grantiau ar agor i unrhyw fudiad neu gymdeithas yn ardaloedd y ras eleni, sydd am wneud cais fydd yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg mewn unrhyw ffordd.

Rhedodd dros 2,000 o unigolion y ras eleni, dros 3 diwrnod o Fangor yn y gogledd i Landeilo yn y de.

Manylion y Ras:

  • 24 Tref mewn 3 diwrnod o’r Gogledd i’r De drwy 7 cyngor sir gwahanol
  • 2,000 wedi rhedeg
  • 250 noddwr km
  • 250 stiward ar hyd y llwybr
  • 3,000+ yn cefnogi ar hyd y ffyrdd ac yn y seremoni ddechreuol, noson Aberteifi a chyngerdd cloi yn Llandeilo

Prif Fanylion y Grantiau:

  • Grantiau ar gael o £50 i £750
  •  Rhaid i arian y grant fod ar gyfer hyrwyddo’r iaith Gymraeg
  • Rhaid i’r gymdeithas neu ddigwyddiad sy’n elwa o’r grant fod o fewn dalgylch agos i’r ardaloedd ble gynhaliwyd y Ras yng Ngorffennaf 2016, sef: Yn y Gogledd: Bangor, Bethesda, Llanrwst, Blaenau Ffestiniog, Y Bala, Dolgellau, Machynlleth. Ceredigion: Aberystwyth, Tregaron, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron, Ceinewydd, Llandysul, Castellnewydd Emlyn, Aberteifi. Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Chastell Nedd Port Talbot: Crymych, Arberth, Dinbych-y-pysgod, San Clêr, Caerfyrddin, Rhydaman, Brynaman, Llanymddyfri, Llandeilo
  • Dyddiad cau ceisiadau grant yw 12pm Dydd Gwener y 3 Chwefror 2017.

Dywedodd Sïon Jobbins, sefydlydd y Ras: “Roedd y Ras eleni yn hynod lwyddiannus a nawr rydym yn gallu rhannu’r llwyddiant gyda mudiadau sydd am wneud ceisiadau grant.

"Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau gan unrhyw fudiad neu gymdeithas sydd am gynnal digwyddiad neu ymgyrch fydd yn hyrwyddo’r Gymraeg.

"Rydym yn diolch i'r holl noddwyr cilomedrau gwahanol sydd wedi gwneud y grantiau yma’n bosib.”

Dywedodd Owain Gruffydd, cadeirydd Mentrau Iaith Cymru: “Mae’r Mentrau Iaith wedi mwynhau trefnu Ras yr iaith ac yn hynod o falch o’r bwrlwm a fu ar draws 7 sir nôl ym mis Gorffennaf.

"Nawr rydym am weld ffrwyth llafur y gwaith hwnnw, sef cael rhoi grantiau i fudiadau i wneud gwahaniaeth dros yr Iaith yn eu hardaloedd lleol.”

Am fwy o wybodaeth am y grantiau cysylltwch gyda eich Menter Iaith leol

Rhannu |