Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Rhagfyr 2016

Cannoedd yn cofrestru i gerdded ar draws Cymru dros ffoaduriaid

Bydd taith gerdded 140 milltir ar draws Cymru, sy'n cychwyn dydd Sul, yn gweld cannoedd o gefnogwyr yn ymuno â thîm craidd o staff Cymorth Cristnogol i godi arian i ffoaduriaid a phobl wedi eu dadleoli ledled y byd.

Cymorth Cristnogol yw asiantaeth Ddatblygu Ryngwladol Eglwysi Prydain ac Iwerddon, ac maent wedi bod yn gweithio â ffoaduriaid ers ei sefydlu yn 1945.

Heddiw, mae’r byd yn wynebu argyfwng ffoaduriaid ar raddfa nas gwelwyd ers yr Ail Ryfel Byd, gyda 65 miliwn o bobl wedi eu dadleoli.

Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda phobl o bob ffydd a heb ffydd.

Maent ar hyn o bryd yn cynorthwyo ffoaduriaid sydd wedi ffoi rhag trais yn y Dwyrain Canol, gan weithio mewn gwersylloedd yn Libanus, Irac, Groeg a Serbia, gan ddarparu bwyd a meddyginiaethau hanfodol, ynghyd â chymorth seicolegol, a chyngor cyfreithiol, i bobl sydd wedi gorfod ffoi, yn aml heb ddim ond y dillad ar eu cefnau.

Meddai Huw Thomas, pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru, sy’n bwriadu cerdded yr holl siwrne: “Penderfynom drefnu'r daith hon i dynnu sylw at ddioddefaint mae gymaint wedi ei ddioddef wrth orfod ffoi o’u cartrefi oherwydd trais.

"Mae’r ymateb gan gymunedau yng Nghymru wedi bod yn anhygoel, nid dim ond o ran y rhai sydd wedi cofrestru i gerdded, ond hefyd yn y cynigion o groeso ar y siwrnai, a charedigrwydd wrth noddi.

"Mae stori’r Nadolig wedi ei seilio ar gariad, am mae’n glir fod y cariad hwnnw yn bresennol yng nghymunedau Cymru y Nadolig hwn.”

Meddai’r Canon Aled Edwards, Prif Weithredwr CYTÛN, sydd hefyd yn cerdded yr holl ffordd: “Cefais y fraint o deithio i weld sefyllfa’r ffoaduriaid ar y ffin rhwng Serbia a Macedonia ac mae’n holl bwysig ein bod yn dal ar bob cyfle i godi llais ac i godi arian i leddfu’r angen mawr sy’n wynebu’r teuluoedd hyn sydd wedi ffoi rhag sefyllfaoedd enbyd yn ein byd.”

Cyfeiria’r daith at y stori Feiblaidd lle mae Iesu a’i rieni yn ffoi o Fethlehem I’r Aifft, gyda’r cerddwyr yn teithio o Fethlehem, Sir Gâr I bentref bach Yr Aifft yn Sir Ddinbych, gan gynnal digwyddiadau ar hyd y daith.

Bydd uchafbwyntiau yn cynnwys croesi’r afon Ddyfi mewn cwch ar Ddydd Iau'r 8fed - gan ddwyn i gof y siwrne beryglus mae cynifer wedi ei gwneud ar draws Môr y Canoldir - gyda gwasanaeth o groeso i ddilyn yn Aberdyfi dan arweiniad y Gwir Barchedig Andy John, Esgob Bangor.

Caiff terfyn y daith ei nodi gyda gwasanaeth arbennig yng Nghadeirlan Llanelwy, dan arweiniad y Gwir Barchedig Gregory Cameron, Esgob Llanelwy, am 7yh, nos Iau'r 15fed. Mae croeso cynnes i bawb yn yr holl ddigwyddiadau ar hyd y daith.

Am fwy o wybodaeth, ac i noddi’r cerddwyr, ewch i wefan Cymorth Cristnogol - https://www.justgiving.com/fundraising/Cymorth-Cristnogol-Cymru neu anfonwch neges destun i 70070 a’r geiriau FFOI60 £2/£5/£10

AMSERLEN Y DAITH

Sul, Rhagfyr 4ydd: Bethlehem, Sir Gâr – Rhydedwin (ger Talyllychau)

Llun, Rhagfyr 5ed Rhydedwin - Llanbedr Pont Steffan

Mawrth, Rhagfyr 6ed Llanbedr Pont Steffan - Blaenpennal

Mercher Rhagfyr 7fed Blaenpennal - Aberystwyth

Iau, Rhagfyr 8fed Aberystwyth - Ynyslas

Gwener, Rhagfyr 9fed Aberdyfi – Centre for Alternative Technology

Sadwrn, Rhagfyr 10fed Centre for Alternative Technology - Brithdir

Sul Rhagfyr 11eg Brithdir - Llanuwchllyn

Llun Rhagfyr 12fed Llanuwchllyn - Bala

Mawrth Rhagfyr 13eg Bala – Betws Gwerfyl Goch

Mercher Rhagfyr 14eg Betws Gwerfyl Goch – Bwlch Penbarras

Iau Rhagfyr 15fed Bwlch Penbarras - Yr Aifft (Egypt)

Rhannu |