Mwy o Newyddion
Meddygfeydd i gael archwiliad iechyd gan y Cynulliad Cenedlaethol
Bydd ymchwiliad newydd gan un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar ba mor dda y mae clystyrau meddygon teulu yn datblygu ar draws Cymru, a beth y gellir ei wneud i helpu i leihau’r galw ar feddygon teulu ac i wella mynediad at y gofal a ddarperir i gleifion, ac ansawdd y gofal hwnnw.
Bydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn canolbwyntio ar rôl y 64 o rwydweithiau clwstwr Meddygon Teulu o amgylch Cymru, ar gyfer gwella ansawdd y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a ddarperir i gleifion yn eu hardal.
Disgwylir y bydd rôl y clystyrau yn datblygu ac yn dylanwadu mwy dros amser.
Nod y clystyrau yw gweithio gyda’i gilydd er mwyn atal salwch, drwy alluogi pobl i gadw’n iach ac i fod yn annibynnol am gyn hired â phosibl, drwy ddarparu amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned.
Hefyd y mae ardaloedd clystyrau yn fwy cydgysylltiedig o ran anghenion lleol, ac fe’u cynlluniwyd i sicrhau bod cleifion yn trosglwyddo mewn modd llyfn a diogel o wasanaethau ysbyty i wasanaethau yn y gymuned ac i’r gwrthwyneb.
Mae yna gonsensws ymhlith cyrff proffesiynol bod gwaith meddygon teulu yn wynebu argyfwng yng Nghymru, gyda llwythi gwaith gormodol, gweithlu sy’n heneiddio a heriau i’w hwynebu o ran recriwtio a chadw staff.
Felly, ymhlith pethau eraill, bydd y Pwyllgor yn edrych ar:
- Sut y gall rhwydweithiau clwstwr Meddygon Teulu yng Nghymru helpu i leihau’r galw ar feddygon teulu, ac i ba raddau y gall clystyrau ddarparu llwybr mwy hygyrch at ofal (gan gynnwys cymorth iechyd meddwl mewn gofal sylfaenol);
- Y tîm aml-ddisgyblaethol sy’n dod i’r amlwg (sut y mae gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal yn ffitio i’r model clystyrau newydd, a sut y gellir mesur eu cyfraniad);
- Yr heriau presennol ac yn y dyfodol o ran y gweithlu; ac
- Y cyllid a ddyrennir yn uniongyrchol i glystyrau er mwyn galluogi practisau meddygon teulu i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio; sut y caiff arian ei ddefnyddio i leihau’r pwysau ar feddygfeydd ac i wella gwasanaethau a’r mynediad sydd ar gael iddynt ar gyfer cleifion.
Dywedodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: "Mae gofal iechyd yng Nghymru yn mynd drwy newid radical wrth i wasanaethau addasu i ymdopi â’r heriau sy’n ein hwynebu, fel poblogaeth wasgaredig a phoblogaeth sy’n heneiddio, ac anghenion iechyd mwy cymhleth.
"Gall clystyrau meddygon teulu fod yn ffordd effeithiol i ddarparu gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen, ac i leddfu rhywfaint o’r pwysau ar feddygon teulu eu hunain.
"Rydym eisoes wedi clywed gan nifer o gyrff proffesiynol sy’n awgrymu bod ymarfer cyffredinol yng Nghymru yn wynebu argyfwng, yn ymdopi â llwyth gwaith cynyddol a phroblemau gyda recriwtio a chadw staff.
"Felly mae’r angen i osod ymarfer cyffredinol ar sail fwy cynaliadwy yn fwy amlwg nag erioed.
"Rydym yn bwriadu sefydlu darlun o’r hyn yw gofal sylfaenol yng Nghymru, beth yw ei gyfeiriad, a beth sydd angen ei wneud i sicrhau ei fod yn addas ac yn ddigon iach i ddarparu’r gwasanaethau o ansawdd uchel y mae eu hangen ar bobl ledled Cymru."
Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu at yr ymchwiliad fynd i dudalen y Pwyllgor ar yr ymgynghoriad i gael gwybod sut i wneud hynny, neu ddilyn yr hyn sy’n digwydd ar Twitter - @SeneddIechyd.