Mwy o Newyddion
Y Lolfa yn lansio calendr adfent i annog pobl i ddarllen dros y Nadolig
Mae Y Lolfa lansio eu calendr adfent heddiw fydd yn annog pobl i ddarllen dros y Nadolig.
Lansiodd y wasg eu calendr adfent heddiw am 12 o’r gloch ac mae'n cynnwys awgrymiadau o lyfrau i’w rhoi yn anrheg neu i’w darllen dros yr wŷl ac yn y flwyddyn newydd.
"Rydym yn falch iawn o lansio ein hymgyrch Nadoligaidd fydd yn annog pobl i roi llyfrau yn anrhegion ac i ddarllen dros y Nadolig ac ymlaen i’r flwyddyn newydd," eglurodd Fflur Arwel, Pennaeth Marchnata Y Lolfa.
"Gall darllen llyfrau ddod â phleser a dihangfa i unrhyw un," meddai Fflur.
"Gallent fod yn ffordd o ddysgu a deall am y byd, yn gyfle i ymlacio, i gipio dychymyg - heb sôn am y cyfraniad mae llyfrau yn ei wneud i ddiwylliant bywiog ein cenedl."
Daw’r ymgyrch yn sgil sefydlu blog darllen ‘Y Silff Lyfrau’ yn gynharach yn yr hydref.
Bydd y wasg hefyd yn nodi carreg filltir arbennig flwyddyn nesaf.
"Bydd 2017 yn flwyddyn fawr i’r Lolfa gyda’r wasg yn dathlu hanner canmlynedd ers ei sefydlu," ychwanegodd Fflur.
"Gwyliwch am gyhoeddiadau o barti mawr a nifer o ddigwyddiadau eraill yn y flwyddyn newydd!
"Yn y cyfamser hoffwn ni ddiolch yn fawr i’n cwsmeriaid ac i bawb sydd wedi cefnogi’r wasg eleni a dros y blynyddoedd. Ymlaen a ni i’r 50!"