Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Rhagfyr 2016

Plaid yn amlygu cyfle ym Mesur Cymru i ddiogelu dyfodol gwaith dur Port Talbot

Mae Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru  dros Fusnes, yr Economi a Chyllid, Adam Price AC, wedi defnyddio Cwestiwn Brys yn y Senedd ddoe i godi pryderon ynghylch adroddiadau y gellir colli mwy o swyddi yng Ngwaith Dur Tata ym Mhort Talbot.

Holodd Adam Price AC yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi am ei drafodaethau gyda Tata a Llywodraeth y DG ynghylch dyfodol tymor hir gwaith Port Talbot a’r posibilrwydd y byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan fwy gweithredol yn nyfodol y gwaith dur.

Wrth siarad yn fuan wedi holi’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, dywedodd Mr Price: “Mae’n amlwg o sylwadau heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet nad yw Llywodraeth Cymru yn ddigon effro i ddatblygiadau.

“Un enghraifft yn unig o hyn yw’r modd yr anfonwyd y datganiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddoe ar ôl adroddiad Reuters a oedd ei hun yn seiliedig ar ebost fu’n cylchredeg am wythnos oddi wrth yr undebau.

“Does gan Port Talbot ddim dyfodol gydag un ffwrnais chwyth oherwydd y byddai hyn yn cynyddu ei ddibyniaeth ar nwy naturiol gan y byddai’n gostwng cyfaint y nwy tanwydd sy’n codi o ffwrneisi golosg a chynhyrchu haearn mewn ffwrnais chwyth sydd ar hyn o bryd yn tanio system gynhyrchu pŵer y gwaith ei hun.

“Fel y pwysleisiais heddiw, dylai Llywodraeth Cymru gryfhau uniad Excalibur-Liberty trwy uno â hwy fel partner ecwiti. Neu fe allai gytuno i ddod yn fuddsoddwr trydydd parti, ynghyd â Llywodraeth y DG, yn amodol ar warantau priodol ynghyd â Tata a Thyssenkrupp.

“Dywedodd Llywodraeth Cymru o’r blaen y bydd yn gofyn i Lywodraeth y DG atal uniad os nad yw’r gwarantau ar gael.

"Fodd bynnag, fel dewis olaf, fe ddylai ystyried gwladoli Port Talbot dros dro os bydd angen er mwyn gwarchod y ddwy ffwrnais chwyth rhag cau.

“Dengys dadansoddiad gan lyfrgell Tŷ’r Cyffredin, dan delerau Mesur Cymru sydd ar hyn o bryd yn cael ei ystyried gan y Senedd, byddai symudiad o’r fath o fewn cylch gorchwyl Llywodraeth Cymru.

“Yng ngoleuni hyn, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i beidio ag oedi ymhellach cyn cymryd y camau angenrheidiol a phriodol i ddiogelu dyfodol gwaith dur Port Talbot.” 

Rhannu |