Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Rhagfyr 2016

Pennaeth nyrsio newydd yn llawn brwdfrydedd dros ei swydd a’i her flewog i godi arian

Mae pennaeth nyrsio newydd mewn canolfan ragoriaeth gofal dementia yng Nghaernarfon yn sicr wedi dechrau ei swydd newydd gyda her wahanol iawn.

Y rheswm am hyn yw bod Anne Jones, sy’n 47 oed, wedi treulio’r rhan fwyaf o’i hamser ers dechrau gweithio ym Mryn Seiont Newydd yn gwisgo rhai enghreifftiau gwych o flew wyneb.

Datblygodd ei hymddangosiad blewog wrth i’w swydd newydd yn y cartref gyd-fynd â dechrau ymgyrch codi arian Tashwedd (Movember) eleni, lle bydd pobl o bob rhan o’r DU yn codi arian i elusennau drwy wisgo mwstashis drwy fis Tachwedd.

Dynion sydd fel arfer yn cymryd rhan drwy dyfu eu haddurniadau eu hunain ar eu gwefus uchaf, ond nid oedd Anne yn gweld unrhyw reswm pam na ddylai hi ymuno yn yr hwyl drwy addurno ei hwyneb ei hun gyda detholiad o fwstashis gludiog.

Felly, ers dechrau’r mis mae wedi bod yn arddangos ei hwyneb barfog ei hun er budd Cancer Research UK, elusen sy’n agos iawn i’w chalon ar ôl gweld aelodau agos ei theulu a ffrindiau yn dioddef y clefyd.

Hyd yn hyn, mae wedi llwyddo i gasglu mwy na £300 o arian nawdd ac mae’n parhau i dderbyn mwy o roddion.

Meddai Anne, sy’n byw yn Llandudno: “Rwy’n gwybod bod Tashwedd fel arfer yn golygu bod dynion yn tyfu mwstashis yn ystod mis Tachwedd, ond roeddwn i eisiau cymryd rhan am fy mod wedi gweld dipyn o bobl rwy’n eu hadnabod yn cael eu heffeithiau gan wahanol fathau o ganser.

“A dweud y gwir, bu farw fy ewythr yn ddiweddar iawn oherwydd y clefyd hwn ac mae’n debyg mai dyna wnaeth fy ysgogi i gymryd rhan.

“Mae gennyf nifer o wahanol fathau o fwstashis, yn cynnwys un mawr llaes fel un y diweddar Lemmy Kilminster o’r grŵp Motorhead, un sinsir ac un arall gyda locsyn clust (sideburns).

“Ers dechrau’r mis, rwyf wedi bod yn eu gwisgo ar bob cyfle posibl, yn cynnwys ym Mryn Seiont lle maent wedi creu dipyn o hwyl ymysg y preswylwyr ac aelodau eraill o staff.

“Rwyf wedi eu gwisgo hefyd pan wyf yn mynd allan ac fe wnes i hyd yn oed wisgo un i fynd i apwyntiad gyda’r meddyg yn ddiweddar.

“Gwisgais fwstas hefyd i fynd i gynhadledd yn Venue Cymru yn Llandudno, ond dim ond yn ystod y seibiant cinio wnes i ei wisgo am nad oedd gennyf yr hyder i’w wisgo yn ystod y gynhadledd ei hun gyda 300 o bobl yn gwylio.”

Ychwanegodd Anne: “Rwyf wedi gwisgo mwstashus ar y stryd ac rwy’n canfod bod y rhan fwyaf o bobl yn dueddol o droi i edrych y ffordd arall.  Ond os wyf yn dal llygaid rhywun gallwch esbonio pam yr ydych yn ei wneud.

“Mae llawer o bobl wedi edrych yn rhyfedd arnaf ac rwyf wedi cael rhai sgyrsiau doniol.  Cefais rodd o £1.50 gan un wraig yr oedd ei gŵr wedi dioddef tri math o ganserau gwahanol ond a oedd wedi dod drwy’r profiad.  Mae gwisgo mwstas yn hawdd o gymharu â’r hyn mae pobl wedi gorfod ei ddioddef.

“Roeddwn yn gwisgo un mawr blewog yn ddiweddar pan ddywedodd rhywun wrthyf fy mod yn edrych yn drwsiadus iawn yn ei wisgo.  Roedd yn ganmoliaeth ond fe wnaeth fy mhoeni rhywfaint.

“Roedd gennyf darged gwreiddiol o godi £200 ond rwyf wedi llwyddo i gasglu mwy na £300 erbyn hyn, diolch i ffrindiau, fy nghydweithwyr ym Mryn Seiont a hyd yn oed dieithriaid yn y dafarn ac mae’r rhoddion yn parhau i gael eu gwneud drwy fy nhudalen justgiving yn https://www.justgiving.com/fundraising/Anne-Q-Jones”   

Mae Anne wedi treulio ei gyrfa gyfan yn gweithio yn y sector gofal a chwblhaodd ei hyfforddiant yn Parkside, yn ei thref enedigol yn Macclesfield, Sir Gaer.

Fel nyrs gymwys, bu’n gweithio i ddechrau mewn uned therapi breifat i bobl a oedd wedi’u cam-drin yn rhywiol yn Macclesfield, cyn symud i arwain uned gofal dementia gyda 14 gwely yn Knutsford gerllaw.

Yn ddiweddarach bu’n rheolwr cartref yn ôl yn Macclesfield, yn darparu gwasanaethau nyrsio a gofal dementia cyffredinol.

Yn dilyn cyfnod fel asesydd anabledd, symudodd Anne i ogledd Cymru ddwy flynedd yn ôl i weithio fel goruchwyliwr gofal mewn cartref Leonard Cheshire ym Mae Colwyn.

Mae Anne yn gyfrifol am arwain tîm o 12 nyrs yn Bryn Seiont Newydd, a agorwyd y flwyddyn ddiwethaf ar safle hen ysbyty cymunedol, gan Mario a Gill Kreft o sefydliad gofal Parc Pendine, sydd wedi ennill nifer o wobrau, ac mae hi hefyd yn helpu’r rheolwr Sandra Evans i drefnu gweithgareddau tua 100 o ymarferwyr gofal.

“Mae Bryn Seiont yn lle gwych i weithio.  Mae amgylchedd cynnes yno ac mae’r staff yn hyfryd a chwrtais, felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fy rôl newydd lle byddaf yn helpu i gynnal ansawdd y gofal a ddarparwn a gwneud gwelliannau lle bynnag y bo’n bosibl,” meddai Anne, sy’n briod, gyda mab a merch sydd wedi tyfu i fyny.

Dywedodd rheolwr Bryn Seiont Newydd, Sandra Evans: "Rydym yn falch iawn i gael croesawu Anne i’r tîm yn Bryn Seiont Newydd lle mae wedi profi i fod yn aelod  gwych o’n tîm yn barod.

"Yn ogystal â bod yn nyrs medrus ac ymroddedig, mae gan Anne synnwyr hwyl gwych, ac mae’n gwneud defnydd da o hyn i godi arian at achos da iawn.”

Rhannu |