Mwy o Newyddion
Plaid Cymru Arfon yn lansio calendr adfent tu chwith
Mae'r gaeaf yn adeg arbennig o anodd i deuluoedd incwm isel gan eu bod yn aml yn gorfod gwneud y dewis anodd rhwng cael digon i'w fwyta a thalu i wresogi eu cartref.
Golyga hyn bod y defnydd o fanciau bwyd yn gallu cynyddu dros y gaeaf wrth i bobl ddefnyddio'r gwasanaeth er mwyn goroesi caledi'r cyfnod.
O ganlyniad i'r cynnydd yma mewn galw, mae banciau bwyd angen mwy o gefnogaeth gan y cyhoedd er mwyn gwneud yn siŵr bod digon o fwyd ar gael i'r rhai sydd ei angen.
Er mwyn ceisio ymateb yn rhannol i’r angen, mae Plaid Cymru Arfon yn lansio'r Calendr Adfent Tu Chwith, ac yn annog etholwyr i ymuno â nhw.
Yn hytrach na derbyn darn o siocled bob dydd yn ystod mis Rhagfyr fel sydd yn arferol, syniad y Calendr Adfent Tu Chwith yw bod teulu neu swyddfa yn rhoi eitem o fwyd mewn basged bob dydd, ac yn cyflwyno'r fasged nwyddau i fanc bwyd Bangor a Chaernarfon cyn y Nadolig.
Meddai Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Arfon dros Blaid Cymru: "Mae'n dorcalonnus bod gymaint o deuluoedd yn dibynnu ar fanciau bwyd a bod cymaint o blant yn byw mewn tlodi ar adeg o'r flwyddyn sydd i fod yn llawn hapusrwydd.
"Mae'r Calendr Adfent Tu Chwith yn ffordd hawdd i bobol gyfrannu i'w banc bwyd lleol, unai fel teulu, grŵp o ffrindiau neu gyd-weithwyr.
"Byddwn ni yn swyddfa Plaid Cymru yng Nghaernarfon yn llenwi basged ac yn ei rannu rhwng banciau bwyd Caernarfon a Bangor, ac mae croeso i bobol adael cyfraniadau yn y swyddfa os ydynt yn dymuno."
Meddai Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon: ‘‘Mae tlodi bwyd yn bla ar fywydau miloedd o bobl ledled Cymru ac yn cael ei waethygu gan brisiau ynni uchel a thoriadau gwirioneddol mewn cyflogau.
"Mae Cymru yn dwyn baich argyfwng costau byw y DU, gyda defnyddwyr banciau bwyd yn cynyddu, gan gynnwys y rheiny sydd yn dibynnu ar ddognau brys.
"Ymddangosodd banciau bwyd fel y rhai ym Mangor a Chaernarfon fel ymateb gofalgar a thosturiol i’r broblem.
"Gobeithiaf yn fawr bydd pobl leol yn ymateb yn bositif i’r fenter, fel bod y bobl fydd mewn gwir angen y Nadolig yma yn gallu cael budd o haelioni lleol."
Derbynnir nwyddau i fanc bwyd Caernarfon pob dydd Mawrth a Gwener yn yr Eglwys Bentecostaidd yng Nghibyn a derbynnir nwyddau ar ddydd Llun, Mercher a Gwener i fanc bwyd Bangor yng Nghadeirlan Bangor.
Bydd Swyddfa Plaid Cymru, yn Stryd y Castell Caernarfon yn derbyn nwyddau i fanciau bwyd Caernarfon a Bangor cyn yr 20fed o Ragfyr.