Mwy o Newyddion
‘Gadewch i ni greu Openreach Cymreig gan adael dim cartref na busnes ar ôl’ – AC Plaid
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Adam Price wedi manteisio ar benderfyniad y rheolydd, Ofcom, i orfodi mwy o bellter rhwng BT a’i adran Openreach gan alw ar Lywodraeth Cymru i ystyried creu cwmni seilwaith digidol mewn perchnogaeth gyhoeddus i Gymru.
Cafodd y syniad ei hyrwyddo gyntaf gan Blaid Cymru yn ei maniffesto ar gyfer Etholiad y Cynulliad 2016.
Ymrwymodd y blaid i archwilio i “ddatblygu rhwydwaith band-llydan eiddo-cyhoeddus neu gilyddol, cwmni telegyfathrebu a Darparydd Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) tebyg i Euskaltel, sy’n rhannoleiddo i’r Llywodraeth Gwlad y Basg, i fynd i’r afael â chysylltedd wael mewn rhannau o Gymru.”
Awgrymodd awdur y maniffesto, Adam Price AC, greu ‘Openreach Cymreig’ yn ystod sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw, gyda Carwyn Jones yn nodi fod Llywodraeth Cymru yn agored i’r syniad.
Dywedodd Mr Price y gall menter ar-y-cyd gyda’r sector breifat ar sail y model a gafodd ei fabwysiadu gan Lywodraeth Gwlad y Basg sicrhau “nad oes unrhyw gartref neu fusnes yng Nghymru yn cael eu gadael ar ôl wrth i fand-eang cyflym iawn gael ei gyflwyno” gyda’r potensial i bawb gael “band-eang cyflymder ultra o fewn degawd.”
Dywedodd Adam Price: “Mae cyhoeddiad heddiw gan Ofcom yn ymyriad arwyddocaol ac yn arwydd clir nad yw’r system bresennol yn gweithio.
“Mae’n bryd cyflymu cyfradd hynod araf cyflwyno band-eang cyflym iawn a chreu Openreach Cymreig sy’n medru buddsoddi’n iawn yn seilwaith digidol ein cenedl.
“Gall cyfleoedd ar gyfer cytundeb menter ar-y-cyd 50/50 gyda’r sector preifat – boed gyda Openreach mwy annibynnol neu gyda chwmniau telegyfathrebu eraill megis Google/Alphabet neu Apple – yn debyg i’r hyn sydd wedi ei sefydlu’n barod gan Lywodraeth Gwlad y Basg sicrhau nad oes yr un cartref neu fusnes Cymreig yn cael eu gadael ar ôl wrth i fand-eang cyflym iawn gael ei gyflwyno.
“Yn wir, mae gan gread cwmni band-eang, ISP a thelegyfathrebu cyhoeddus Cymreig y potensial o sicrhau fod gan bawb gysylltiad band-eang cyflymder ultra o fewn degawd.
“Mae’n galonogol fod y Prif Weinidog yn agored i’r syniad hwn. Rydym nawr angen symudiad cyflym gan Lywodraeth Cymru i wireddu hyn.”