Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Tachwedd 2016

Croeso Cymru yn dyfarnu 5 Seren i Fferm Penglais

MAE neuaddau preswyl mwyaf newydd Prifysgol Aberystwyth wedi cael gradd llety pump seren gan Croeso Cymru. 

Fferm Penglais yw’r llety myfyrwr cyntaf yng Nghymru i gael y radd uchaf posibl yn y categori Llety Campws.

Mae’r dyfarniad yn cydnabod ansawdd ac ystod y cyfleusterau a’r gwasanaethau, a’r ffocws arbennig ar awyrgylch, naws, gofal am westeion a sylw i fanylion.
Sgoriodd Fferm Penglais dros 90% ym mhob un o’r saith o feysydd asesu ansawdd, gan sgorio 100% ar gyfer glendid a diwyg allanol.

Yn ei asesiad o Fferm Penglais, dywedodd Visit Wales: “Mae’r cynllun yn wych ac mae’n cynnig llety en-suite mewn fflatiau a stiwdios hardd eu dyluniad i bob ymwelydd.

“Mae yma gyfleusterau o’r radd flaenaf megis y mannau storio a golchi beiciau, golchi dillad, ac ystafelloedd cyfarfod.

“Mae’r Hyb yn cynnig gofod eistedd gyfoes ac atyniadol i ymwelwyr a gwesteion. Mae’n cynnig yr ansawdd uchaf o ran safonau llety myfyrwyr a hyn o bryd.”

Mae’r categori Llety Campws yng nghynllun asesu ansawdd Croeso Cymru yn cwmpasu prifysgolion a cholegau sy’n cynnig llety i ymwelwyr yn ystod cyfnodau gwyliau a hynny ar sail gwely a brecwast neu hunan-ddarpar.

Dywedodd Jim Wallace, cyfarwyddwr campws y brifysgol a’r gwasanaethau masnachol: “Mae’r Brifysgol yn falch iawn o glywed y newyddion bod ein preswylfeydd blaenllaw newydd ar Fferm Penglais wedi cael eu dyfarnu 5* achrediad Campws gan Visit Wales. 

“Ers agor yn 2015, mae Fferm Penglais yn cynnig llety myfyrwyr sydd ymhlith y gorau ym Mhrydain.

“Mae’n darparu amgylchedd gwych i fyw ac astudio gydag ystafelloedd gwely hael en-suite a fflatiau stiwdio manyleb uchel.

“Ar ben hynny fel y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn achrediad campws pump seren, rydym yn falch iawn i fod yn rhan o osod y bar yn uwch ar draws y sector yng Nghymru a gwella ymhellach yr enw da sydd gan brifysgolion Cymru o ran sicrhau safonau o ansawdd ar gyfer ein hymwelwyr.”

Yn ychwanegol at yr achrediad pump seren, mae Croeso Cymru hefyd wedi dyfarnu Gwobr Croesawu Beicwyr a Cherddwyr i gydnabod ei fod yn cwrdd ag angheniona gofynioon penodol cerddwyr a beicwyr.

Tîm twristiaeth Llywodraeth Cymru yw Croeso Cymru ac mae’n gyfrifol am annog buddsoddi a gwella ansawdd profiad yr ymwelydd yng Nghymru.

Rhannu |