Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Tachwedd 2016

Arian ar gael i astudio’n Gymraeg

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig arian i’r rhai hynny sy’n dymuno dilyn cyfran o’u cwrs prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg yn 2017.

Gall unrhyw ddarpar fyfyriwr wneud cais am ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg er mwyn derbyn hwb ariannol sylweddol yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol.

Cynigir hyd at £3,000 i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio o leiaf 66% o’u cwrs trwy’r iaith a hyd at £1,500 i rai sydd eisiau dilyn o leiaf 33% ohono trwy’r Gymraeg.

Yn ychwanegol, mae Ysgoloriaeth William Salesbury o £5,000 ar gael i unigolyn sydd am astudio cwrs a gynhigir yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg.

Mae hyd at 500 o gyrsiau ar draws prifysgolion Cymru yn gymwys i dderbyn yr arian a dylid sicrhau bod cwrs yn gymwys i dderbyn ysgoloriaeth cyn ymgeisio.

Gellir gwirio p’un a ydy cwrs yn gymwys i dderbyn ysgoloriaeth trwy ddefnyddio’r Chwilotydd Cyrsiau sydd ar wefan y Coleg Cymraeg neu trwy lawrlwytho’r fersiwn Ap.

Un oedd yn falch o glywed bod Newyddiaduraeth yn gymwys i dderbyn arian oedd Elen Davies, sydd bellach yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Meddai: ‘‘Mae’r arian o gymorth i brynu deunyddiau dysgu ac wrth gwrs i fwynhau bywyd cymdeithasol y brifysgol!

"Mae'r ffurflen gais yn cymryd ychydig funudau i’w llenwi a’r cyfan sydd angen ei wneud yw dewis astudio rhan o'r cwrs drwy’r Gymraeg.''

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflen gais i dderbyn y Brif Ysgoloriaeth yw Ionawr 15, 2017.

Rhannu |