Mwy o Newyddion
Galw am deledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai ceffylau
Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts, yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno camerâu teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dŷ ceffylau yn y DU er mwyn mynd i’r afael â gweithredoedd yn erbyn lles anifeiliaid.
Wrth arwain Dadl Neuadd Westminster ar deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai ceffylau, dywedodd yr AS Plaid Cymru fod angen system reoleiddio fwy cadarn i nodi ac erlyn achosion o dorri rheoliadau lles anifeiliaid ynghyd â monitro tynnach o arferion lladd-dai.
Mae hi hefyd yn mynegi awydd i weld lladd-dai ar raddfa llai yng Nghymru yn cael cymorth gan y llywodraeth i gyflawni hyn.
Dywedodd yr Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, sydd wedi hir-ymgyrchu ar y mater hwn, fod gormod o geffylau yn agored i greulondeb a cham-driniaeth a byddai cyflwyno camerâu teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn gam ymarferol i wella lles anifeiliaid ac erlyn y sawl sy’n torri'r gyfraith.
O dan rheoliadau cyfredol, nid yw’n ofynnol i ddefnyddio teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai, a lle mae teledu cylch cyfyng mewn bodolaeth, nid oes unrhyw gyfraith sy'n mynnu bod y ffilm yn cael ei rhannu â'r awdurdodau sy’n gyfrifol am fonitro lles yr anifeiliaid. O ystyried bod ceffylau a gedwir yng ngogledd Cymru yn aml yn cael eu cludo i ladd dai yng ngogledd Lloegr, mae’r Aelod Seneddol yn galw am gydweithrediad traws-ffiniol rhwng pob un o Lywodraethau'r DU mewn ymgais i deilwra safonau i bob ardal.
Dywedodd Liz Saville Roberts: "Mae angen system reoleiddio llawer mwy cadarn i ddelio â thoriadau mewn rheoliadau lles anifeiliaid mewn lladd-dai ceffylau.
“Gall teledu cylch cyfyng, o'i ddefnyddio'n iawn, chwarae rhan bwysig o ran canfod ac atal toriadau lles difrifol.
“Er y byddai defnyddio teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yng Nghymru yn dod o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru, mae natur arbenigol a lledaeniad daearyddol lladd-dai ceffylau yn gwneud hyn yn fater trawsffiniol.
“Mae'n ymddangos yn amlwg i mi fod hwn yn faes lle y gall holl Lywodraethau y DU weithio gyda'u gilydd i greu safonau y gellir eu teilwra’n briodol i bob ardal.
“Mae Defra eisioes wedi datgan eu dymuniad i annog dull gwirfoddol o osod teledu cylch cyfyng. Hefyd, nododd Llywodraeth Cymru gefnogaeth ar gyfer defnyddio teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yng Nghymru, ond eto maent wedi methu â deddfu i'w wneud yn orfodol.
“Mae'r achos dros wneud teledu cylch cyfyng yn orfodol mewn lladd-dai ceffylau yn y DU yn glir. Nid yw'r dull gwirfoddol presennol yn gweithio. Nid yw perchnogion ceffylau yn hyderus fod y lladd-dai yn gwarchod lles ceffylau trwy gydol y broses.
“Yn wir, gall teledu cylch cyfyng hefyd ddiogelu gweithwyr lladd-dai rhag cyhuddiadau ffug o greulondeb. Byddai perchnogion y lladd-dai yn gallu sicrhau bod eu staff yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn ei ddefnyddio fel tystiolaeth i wrthbrofi honiadau ffug o gamymddwyn.
“Yn hyn o beth, ni ddylai teledu cylch cyfyng gael ei ystyried fel rhyw fath o rwystr, gall fod o fudd mawr i'r lladd-dai.
“Rwy'n falch fod Plaid Cymru, fel mater o bolisi, yn credu y dylai teledu cylch cyfyng fod yn ofynnol i bob lladd-dŷ i fonitro a diogelu lles anifeiliaid.
“Yr wyf felly yn annog y Llywodraeth i wneud popeth o fewn eu gallu i ddarparu system sy'n sicrhau safonau uchel o ran lles a meithrin mwy o hyder yn y sector drwy ystyried ei gwneud hi’n orfodol cael teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai ceffylau."