Mwy o Newyddion
Ysgol Gelf Aberystwyth yn nodi canmlwyddiant yr artist John Elwyn
Mae arddangosfa i nodi canmlwyddiant geni’r artist o Geredigion, John Elwyn, wedi agor yn Amgueddfa ac Orielau Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.
Ganwyd John Elwyn yn Adpar, de Ceredigion, lle’r oedd ei dad yn rhedeg melin wlân ar lannau’r afon Teifi, a derbyniodd ei hyfforddiant yng Nghaerfyrddin, Bryste a'r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain.
Yn ddiweddarach bu’n byw a gweithio yn Hampshire tan ei farwolaeth yn 1997.
Curadwyd yr arddangosfa John Elwyn: ‘A Quiet Sincerity’ gan ei ffrind a’i gofiannydd, yr Athro Robert Meyrick, Pennaeth yr Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Mae John Elwyn yn un o artistiaid mwyaf nodedig Cymru, ac mae ei baentiadau wedi cyfrannu'n sylweddol at y traddodiad tirlun Prydeinig,” dywedodd yr Athro Meyrick.
“Paeintiodd bynciau sy'n adlewyrchu ei dreftadaeth a’i empathi gyda phobl Cymru, eu hiaith a'u traddodiadau cymdeithasol.
“Yn yr un modd â John Constable yn Suffolk, Samuel Palmer yng Nghaint a Graham Sutherland yn Sir Benfro, cafodd John Elwyn ei ysbrydoli gan amgylchedd oedd yn gyfarwydd iddo.
“Mae ei baentiadau yn cyflwyno gweledigaeth heddychlon o fywyd yng nghefn gwlad Ceredigion. Am saith degawd galwodd ar ei brofiad helaeth o fywyd gwaith ar fuarthau a phorfeydd dyffryn Teifi a Ceri.”
Yn 1952 ysgrifennodd yr arlunydd John Petts am John Elwyn gan ganmol ei 'ddidwylledd tawel' a’r ymdeimlad sy’n cael ei gyfleu yn ei beintiadau o 'gariad a thosturi dros ddynoliaeth a’i ymwybyddiaeth o’r cysylltiadau rhwng dynion a menywod â natur, adeiladau, a bywyd bob dydd yng Nghymru.’
Ysgrifennodd ei gyfaill Syr Kyffin Williams RA amdano: "Roedd John Elwyn yn arlunydd go iawn a oedd yn gwybod beth yr oedd am ei wneud ac a aeth ati yn dawel i’w wneud.
"Mae safon ei waith wedi sicrhau iddo le parhaol yn hanes celf Cymru.
"Roedd John yn ddyn clir ei feddwl a oedd yn caru'r hyn a welai yn ei Gymru ef.
"Carai’r bobl, y ffermydd, y capeli, y ffyrdd troellog a’r caeau bychain a chymen, ac yn rhinwedd ei frwdfrydedd, rhoddodd i Gymru rhywbeth o werth mawr."
Ychwanegodd yr Athro Meyrick: "Parhaodd John Elwyn yn driw i'w argyhoeddiad.
"Efallai ei fod wedi peintio tirluniau’r meddwl, ond maent hefyd yn bodoli, gan eu bod wedi’u seilio ar lefydd a sefyllfaoedd go iawn.
"Mae'r peintiadau yn adlewyrchu ei brofiadau ef ei hun ac o’r herwydd yn adlewyrchu cynhesrwydd ei gymeriad ef ei hun."
Mae’r arddangosfa John Elwyn: 'Quiet Sincereity’ i’w gweld yn Amgueddfa ac Orielau Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth tan 17 mis Chwefror. Mae ar agor i'r cyhoedd o Ddydd Llun tan Ddydd Gwener rhwng 10yb a 5yp.
Noder y bydd Amgueddfa ac Orielau’r Ysgol Gelf, sydd wedi’u lleoli yn Adeilad Edward Davies ar y Buarth Mawr (SY23 1NG), ar gau dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Mynediad am ddim.
Llun: John Elwyn