Mwy o Newyddion
Plaid - Ceidwadwyr yn bradychu'r Gymru wledig gyda geiriau gwag am daliadau amaeth
Mae Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Gwledig, Simon Thomas AC, wedi ymosod ar arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru am honni y byddai’n well gan y gymuned amaethyddol yng Nghymru weld San Steffan yn gyfrifol am eu cymorthdaliadau.
Dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin presennol yr UE, mae ffermwyr yng Nghymru yn derbyn rhyw £250m y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol.
Nid yw Llywodraeth y DG hyd yma wedi medru gwarantu y bydd y taliadau hyn yn parhau y tu hwnt i 2020, ar waethaf gwarant yr ymgyrch Adael cyn y refferendwm y byddai arian UE i Gymru yn cael ei gadw.
Dywedodd Simon Thomas: "Yn ôl ym mis Mehefin, yr oedd Andrew RT Davies yn uchel ei gloch 'y byddwn yn gwybod yn awr y byddai cyllid ar gyfer pob un rhan o’r DU yn ddiogel petaem yn pleidleisio i adael.' Bum mis wedyn, mae’r addewidion gwag a wnaed gan y Brexitwyr i ffermwyr Cymru yn chwalu.
"Mae Cymru wledig yn elwa’n fawr o gyllid yr UE. Ymhell o warantu y bydd taliadau uniongyrchol yn parhau wedi 2020, mae Llywodraeth y DG wedi methu’n llwyr â chynnig unrhyw sicrwydd i ffermwyr y mae eu bywoliaeth mewn perygl.
"Gyda’r agwedd hon gan lywodraeth San Steffan, mae’n wirion ac yn anghyfrifol i arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru honni y byddai’n well i gymorthdaliadau ffermio gael eu gweinyddu o Lundain.
"Does dim gwadu fod gan Lywodraeth Lafur Cymru lawer o gwestiynau i’w hateb. Mae eu record wedi gweld hyder ein sector amaethyddol yn plymio i’r gwaelodion – ond nid canoli pŵer yn San Steffan yw’r ateb.
"Byddai ildio grym i San Steffan dros amaethyddiaeth hefyd yn golygu ildio pŵer dros bolisïau amgylcheddol. Bu Plaid Cymru yn ymgynghori ynghylch dyfodol amaeth-amgylcheddol unedig a chyfun i Gymru. Byddai’r Torïaid yn golchi ein hamgylchedd i ffwrdd er mwyn plesio barwniaid barlys East Anglia.
"Pan oedd Gweinidog Materion Gwledig Plaid Cymru yn ei swydd, yr oedd y gymuned amaethyddol yn teimlo’n hyderus fod eu buddiannau’n cael eu cynrychioli a’u gwarchod. Nid datganoli yw’r broblem, ond Llafur.
"Mae popeth ddywed Andrew RT Davies yn groes i fuddiannau ffermwyr Cymru. Boed yn anfon pwerau yn ôl i San Steffan neu dynnu allan o’r farchnad sengl, allwn ni ddim ymddiried yn y Torïaid i amddiffyn cefn gwlad Cymru."