Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Tachwedd 2016

Mae dibyniaeth fawr ar farchnad Ewrop yn gwneud bargen Brexit di-doll yn “hanfodol” i gig coch – Cadeirydd HCC

BYDD trafodaethau masnach ôl-Frexit yn hollbwysig i ddyfodol y diwydiant cig coch yng Nghymru oherwydd bod mwy na 90% o’r fasnach allforion, a chymaint â thraean o’r ddiadell ŵyn genedlaethol, yn mynd i’r Undeb Ewropeaidd.

Dyma oedd neges Cadeirydd HCC Dai Davies mewn araith i’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd fore Llun.

Meddai: “Mae allforion yn hollol hanfodol i ddyfodol y diwydiant. Bydd ein gallu i allforio yn cael effaith fawr ar brisiau’r farchnad. Yn 2014, aeth gwerth £225m o gynnyrch cig coch i’n marchnadoedd aeddfed yn Ewrop. Dyna naw allan o 10 o’n cyfanswm o allforion.

“Gydag allforion yn cynrychioli 35% o’n cynnyrch Cig Oen Cymru, mae hynny’n golygu fod bron i draean o’r ddiadell ŵyn Gymreig yn cael ei werthu i wledydd yr undeb Ewropeaidd.

“O dan oruchwyliaeth HCC mae allforion wedi tyfu o thua £50m yn 2003 i uchafbwynt o £250m ddwy flynedd yn ôl.

“Mae marchnadoedd newydd yn cynnig potensial cyffrous at y dyfodol, ond o ran gwerth maent yn bell y tu ôl i’n marchnadoedd aeddfed o fewn Ewrop.

“Yn amlwg, allwn ni ddim fforddio cael ein cau allan neu i wynebu rhwystrau i’n masnach allforio i’r marchnadoedd craidd hyn.

“Rwy’n siŵr y bydd pawb o fewn y diwydiant cig coch yng Nghymru yn cefnogi’r Prif Weinidog a’n Ysgrifennydd Cabinet wrth iddynt ddadlau dros gytundeb deg di-doll ar ôl Brexit.

“Dydy hi ddim yn waith hawdd na chyflym i dorri tir newydd; bydd rhwystrau, anawsterau diplomataidd a chytundebau masnach i ddelio â nhw, waeth pa mor uchel yw safon ein cynnyrch.”

Pwysleisiodd Mr Davies, sy’n ymddeol fel Cadeirydd HCC ym mis Ebrill, fod rhaid i bob rhan o’r diwydiant, ar yr un pryd â gwarchod marchnadoedd Ewropeaidd, edrych at y dyfodol a chydweithio er mwyn datblygu’r diwydiant.

“Rhaid i ni ddefnyddio enw da hir-sefydledig y brand Cig Oen Cymru – enw sy’n eiconig fel brand o safon fyd-eang fel Champagne – er mwyn hybu allforion cig Cymreig yn ehangach.

“Gall statws Cig Oen Cymru godi’n proffil cenedlaethol ac ysbrydoli mentrau allforio newydd Cymru. Gall fod o gymorth i adeiladu platfform ac enw da yn ehangach i safon cynnyrch Cymru.

“Hefyd, ni allwn danbrisio pwysigrwydd y cwsmer ac mae’n hanfodol ein bod ni fel diwydiant yn cynhyrchu gyda’r cwsmer mewn golwg.

“Bu’r farchnad mewn ŵyn ysgafn, er enghraifft, yn ddibynnol ar wledydd Môr y Canoldir ers blynyddoedd.

“Ry’n ni wedi gweld y marchnadoedd hynny yn dirywio yn ystod y trafferthion ariannol diweddar, a hefyd mae’r farchnad Brydeinig a thramor yn symud tuag at garcasau mwy.

“Mae’r farchnad yn newid. Rwy’n eich sicrhau fod HCC a’n asiantau yn gweithio’n galed i gynnal y farchnad Ewropeaidd ar gyfer ŵyn ysgafn, ond fe ddylai cynhyrchwyr barhau gyda’r broses o leihau’r ddibyniaeth ar y farchnad arbenigol hon sydd ar i lawr, a gweithio tuag at gynyddu pwysau carcasau er mwyn cwrdd â gofynion ein prif farchnadoedd ym Mhrydain a thu hwnt.”

Dywedodd ei fod yn bwriadu mwynhau ei Ffair Aeaf olaf fel Cadeirydd HCC.

“Yna, yn fy misoedd olaf wrth y llyw, byddwn wrth fy modd yn gweld cam anfaddeuol yn cael ei unioni – sef fod Cymru yn cael ei amddifadu o gyfran o ardoll ein ffermwyr oherwydd hap a damwain patrwm daearyddol y lladd-dai. 

“Mae’n gam ddwbl i weld yr arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio i hybu cynnyrch sy’n cystadlu gyda’n cig ni.

“Mae’n bryd i’r ardoll yma ddod gartre, ac rwy’n diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei hymdrechion cadarnhaol i gyflawni hyn.

“Byddwn i’n hoffi gweld hyn yn digwydd cyn mis Ebrill.”

Rhannu |