Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Tachwedd 2016

Annog trigolion Caernarfon i adrodd am dipio anghyfreithlon

Mae trigolion Caernarfon yn cael eu hannog i adrodd ar dipio anghyfreithlon yn dilyn clirio safle yng Nghaernarfon.

Mae rhan o dir wrth Lôn Ysgol sy’n gyfagos i gyffordd Ffordd Llanberis, wedi ei heintio gan broblemau tipio anghyfreithlon. Yn dilyn archwiliadau gan Swyddogion Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd, mae’r cyngor wedi clirio nifer helaeth o’r gwastraff.

Mae Cyngor Gwynedd wedi clirio llawer iawn o wast gan gynnwys soffa, troliau siopa, teledu, a llawer iawn o eitemau cartref a gwastraff.

Er mwyn gwneud tipio anghyfreithlon yn anoddach, mae mynedfa’r safle wedi ei gloi ac mae arwyddion rhybudd wedi cael eu gosod.

Mae’r arwyddion yma yn rhybuddio bod y safle yn cael ei fonitro gan gamerâu CCTV a bod y ddirwy fwyaf am dipio anghyfreithlon yn gallu bod cyn uched â £50,000, neu hyd yn oed mynd i’r carchar.

Cafodd Japanese Knotweed ei ddarganfod hefyd, yn tyfu ar ran fechan o’r safle. Planhigyn rhywogaeth ymledol anfrodorol yw Japanese Knotweed ac fe ddeliodd ymgyrch Trefi Taclus hefo’r planhigyn.

Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar faterion yr amgylchedd: “Mae’r blerwch sy’n cael ei gyflawni gan leiafrif sy’n tipio’n slei bach yn effeithio ar ansawdd bywyd pawb. Rydw i felly yn falch iawn ein bod wedi gallu adfer cyflwr y safle hwn.

“Mae pawb yn ymwybodol bod tipio anghyfreithlon yn drosedd ac rydw i’n sicr byddai mwyafrif helaeth o’r gymuned yn cytuno bod ganddynt rôl bwysig i hysbysu’r cyngor am y rheini sy’n gyfrifol am dipio anghyfreithlon.”

Ychwanegodd Cynghorydd Tref Caernarfon, Maria Sarnacki: “Mae trigolion lleol yn hynod werthfawrogol bod y sefyllfa annymunol yma yn y safle wedi ei glirio.

"Rydw i yn gofyn i drigolion fod yn wyliadwrus ac i adrodd a hysbysu Swyddogion Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd am unrhyw broblemau pellach.”

Meddai Steve Parkinson, Cydlynydd Prosiect Tipio Anghyfreithlon Gogledd Cymru: “Dw i’n falch fod Cyngor Gwynedd wedi gweithredu.

"Byddwn yn annog pawb arall i ddefnyddio eu cyfleusterau ailgylchu lleol, sydd yn llai na milltir i ffwrdd i bobl Caernarfon.

"Mae hefyd yn bwysig bod trigolion yn hysbysu’r Cyngor am unrhyw weithredu tipio amheus i swyddogion Cyngor Gwynedd.”

I hysbysu’r Cyngor am ddigwyddiad tipio anghyfreithlon yn gwbl gyfrinachol, gallwch gysylltu hefo swyddogion Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd drwy ffonio: 01766 771000 neu e-bostio: gorfodaethstryd@gwynedd.llyw.cymru Gallwch hefyd gysylltu hefo’r Cyngor drwy ein gwefan www.gwynedd.llyw.cymru – Adrodd problem

Mae Trefi Taclus yn cael ei ariannu gan grant Llywodraeth Cymru fel rhan o gynllun gyda’r nod o wella ansawdd yr amgylchedd lleol.

Llun: Y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar faterion amgylcheddol, Peter Simpson, Rheolwr Gwasanaethau Stryd a Chynghorydd Tref Caernarfon, Maria Sarnacki yn archwilio’r gwaith clirio yn Lôn Ysgol, Caernarfon. 

Rhannu |