Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Tachwedd 2016

AM yn galw am dro pedol ar doriadau i brosiectau amddiffyn rhag llifogydd

MAE Aelod y Cabinet dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Simon Thomas AC wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl toriadau i brosiectau amddiffyn rhag llifogydd a lliniaru newid hinsawdd yn dilyn achosion o lifogydd difrifol ar draws Cymru.

Bu Simon Thomas o Blaid Cymru yn trafod mewn sesiwn o Gwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar lawr Siambr y Senedd, pan ofynnodd i Lywodraeth Cymru i ailystyried y toriadau arfaethedig:

Meddai: “Mae 2016 ar drywydd i gael ei nodi fel y flwyddyn gynhesaf ers cyn cof, ac mae effeithiau newid hinsawdd wedi cael ei deimlo, fel y gwelom, dros yr wythnosau diwethaf yng Nghymru.

“Yng Nghyllideb ddrafft Lywodraeth Cymru, maent wedi clustnodi 38% o doriad yng ngwariant cyfalafol ar brosiectau lliniaru newid hinsawdd ac amddiffyn rhag llifogydd.

“Yn dilyn Datganiad yr Hydref, le gwnaeth Lywodraeth San Steffan addo ychydig arian cyfalafol ychwanegol i Lywodraeth Cymru, er mai dim ond swm cyfatebol i’r hyn a warir ar adeilad mawr yn Llundain a chynigir, dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio’r posibiliad o adfer rhan o’r cyllid i’w prosiectau cyfalafol i amddiffyn rhag llifogydd.”

Yn ystod Mis Tachwedd, rydym wedi gweld glaw eithafol ar draws y Wlad, ac mae’r AC dros y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas yn credu bod hyn yn atgoffâd pwysig dros bwysigrwydd amddiffynfeydd rhag llifogydd cryf yng Nghymru.

“O gartrefi yng nghymoedd De Cymru i arfordir garw Abergwaun, mae Storm Angus wedi ein hatgoffa am bwysigrwydd brosiectau amddiffyn rhag llifogydd cryf ac effeithiol yng Nghymru.

“Dros y blynyddoedd, mae cymunedau yn fy rhanbarth wedi profi, yn fwy nag eraill, y profiadau ingol sydd yn effeithio ar deuluoedd a chymunedau yn dilyn llifogydd garw.

"Mae cymunedau megis Talybont, Aberystwyth yn adnabod y boen emosiynol ac economaidd sy’n cael ei greu gan lifogydd, ac felly mae’n hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi’r cymunedau hynny.

“Y ffordd orau o wneud hyn, yw drwy sicrhau bod gan Gymru prosiectau amddiffyn rhag llifogydd a lliniaru newid hinsawdd gadarn.

“Er mwyn sicrhau bod y prosiectau yn effeithiol mae rhaid i Lywodraeth Cymru ailfeddwl eu toriadau arfaethedig i’r gyllideb a defnyddio swm o arian ychwanegol sy’n dod i Gymru yn effeithiol ac effeithlon.”

Rhannu |