Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Tachwedd 2016

90% o ffermwyr Cymru i dderbyn taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol ar y diwrnod cyntaf

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi y bydd bron i 90% o hawliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol yn cael eu talu pan fydd y ffenestr daliadau newydd yn agor ddydd Iau, 1 Rhagfyr.

Wrth gyhoeddi’r newyddion ar ddiwrnod agoriadol y Ffair Aeaf, cafwyd cadarnhâd gan Ysgrifennydd y Cabinet y byddai £173 miliwn yn cael ei dalu i gyfrifon banc 13,176 o ffermwyr Cymru ar ddiwrnod cyntaf y ffenestr dalu.

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: “Dwi’n falch o gyhoeddi bod Cymru wedi dychwelyd i’w pherfformiad rhagorol arferol, gyda bron i 90% o ffermwyr yn derbyn eu taliad Cynllun y Taliad Sylfaenol ar y diwrnod cyntaf.

“Mae’r perfformiad rhagorol hwn wedi digwydd yn rhannol oherwydd ein bod bellach yn prosesu ceisiadau ar-lein, sydd wedi lleihau biwrocratiaeth, ac wedi  caniatâu i geisiadau gael eu prosesu yn gyflym ac yn effeithiol.

"Ni yw’r unig wlad sy’n cynnig dull digidol cyflawn o brosesu’r ceisiadau hyn.

“Mae ein perfformiad gwych o ran taliadau hefyd wedi elwa’n fawr o weithio gyda’r undebau a’r asiantaethau ffermio, sydd wedi cynnig cymorth i nifer o ffermwyr wrth iddynt wneud eu ceisiadau.

"Rwy’n ddiolchgar iddynt, ac i ffermwyr Cymru, sydd wedi bod mor barod i ddefnyddio RPW Ar-lein ac wedi sicrhau bod y system newydd yn gymaint o lwyddiant.”

Mae’r Ffair Aeaf yn gyfle arall i Ysgrifennydd y Cabinet drafod goblygiadau penderfyniad y DU i adael yr UE gyda’r diwydiant, ac i roi sicrwydd i ffermwyr ynghylch taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol yn y dyfodol.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet: “Bydd pryderon wrth gwrs ynghylch dyfodol Cynllun y Taliad Sylfaenol a chynlluniau tebyg o ganlyniad i benderfyniad refferendwm yr UE. 

"Tra ein bod yn parhau yn aelod o’r UE, bydd y cynllun hwn yn parhau.

"Rydym hefyd wedi derbyn sicrwydd gan y Trysorlys y bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn cael ei ariannu’n llawn tan 2020.”  

 

Rhannu |