Mwy o Newyddion
Gwaseidd-dra diwylliannol yn rhwystr dros beidio â dysgu hanes Cymru - Cynhadledd yn galw am Gwricwlwm Cymru
Penderfyniad unfrydol Cynhadledd Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr ddydd Sadwrn diwethaf oedd galw am sicrwydd y bydd cwricwlwm y dyfodol ar gyfer ysgolion Cymru yn un unigryw ar gyfer Cymru fel bod y profiad Cymreig yn amlwg ym mhob Maes Dysgu.
Dywedodd Eryl Owain, llefarydd ar ran y gynhadledd, bod angen disodli’r drefn annigonol bresennol o Gwricwlwm ‘Cenedlaethol’, a luniwyd ar gyfer Lloegr, gyda chwricwlwm Cymreig fel atodiad iddo.
Meddai: "Mae angen llunio Cwricwlwm wedi ei wreiddio’n gadarn yng ngwerthoedd a diwylliant Cymru a fydd yn gosod y sylfaen i’n disgyblion fedru edrych allan tua’r byd mawr o’u hamgylch trwy lygaid Cymreig.
"Mae hynny’n arbennig o bwysig ym maes hanes."
Prif siaradwraig wâdd y gynhadledd oedd yr hanesydd Dr Elin Jones, o Gwm Rhymni, a gadeiriodd dasglu ar ran Llywodraeth Cymru a adroddodd dros dair blynedd yn ôl pa mor annigonol oedd y sylw a roddir i’n hanes ni ein hunain mewn llawer iawn o ysgolion, gan ddweud mai “gwaseidd-dra diwylliannol yw'r rhwystr dros beidio â dysgu hanes Cymru.”
Er bod Adroddiad yr Athro Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus, (Chwefror 2015) yn gosod fframwaith ar gyfer cwricwlwm unigryw i Gymru, mynegodd hi bryder na fydd “dimensiwn Cymreig ystyrlon yn greiddiol i unrhyw Gwricwlwm i Gymru a seilir ar yr Adroddiad hwn,” gan nad yw’n “cynnig diffiniad ohono, yn ei enghreifftio nac yn manteisio ar gyfloedd amlwg i gyfeirio ato.”
Daeth dros hanner cant i’r gynhadledd, yn eu plith athrawon a darlithwyr, gwleidyddion a chynrychiolwyr amryw o fudiadau a chymdeithasau.
Ategwyd ganddynt alwad ar Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, i ddatgan yn glir y bydd meysydd llafur, yn deillio o Dyfodol Llwyddiannus, sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan rwydweithiau o Ysgolion Arloesi, yn rhoi lle sylfaenol a chanolog i Gymru a’r profiad Cymreig.
Gelwir hefyd am sicrwydd y bydd adnoddau addas digonol ar gael i gyflwyno hanes Cymru a’r dimensiwn Cymreig ar draws y cwricwlwm yn effeithiol mewn modd deniadol ynghyd â threfniadau hyfforddiant ble mae angen hynny.
Llun: J. Dilwyn Williams (llywydd), a'r ddau siaradwr: Dr Elin Jones ac Eryl Owain