Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Awst 2011

Tecstio dros S4C newydd

Mae'n amser i'r gwleidyddion ddelifro S4C newydd, dyna fydd neges rali ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau.

Ers i'r Llywodraeth gyhoeddi cynlluniau i gwtogi ar eu grant i'r unig sianel deledu Gymraeg o naw deg pedwar y cant, mae degau o fudiadau, arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymr a'r Archesgob Cymru Barry Morgan wedi datgan eu gwrthwynebiad. Beirniadwyd cyd-cynllun y BBC a'r Llywodraeth gan y Pwyllgor Materion Cymreig a'r Pwyllgor Diwylliant yn San Steffan, ac ym mis Mawrth eleni, cyflwynodd ymgyrchwyr ddeiseb a lofnodwyd gan 13,000 o bobl yn erbyn y cwtogiadau.

Yn annerch y dorf yn y rali fydd Llywydd Plaid Cymru Jill Evans, AS Llafur Susan Elan Jones a Meic Birtwistle o Undeb y Newyddiadurwyr. Yn ystod y rali, bu siaradwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn annog protestwyr i decstio yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt gyda neges yn erbyn y newidiadau.

Meddai Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae grym pobl yn ymgyrchu wedi golygu fod yr ymgyrch hon wedi symud agenda Llywodraeth San Steffan i ddiddymu S4C i'n sefyllfa bresennol sef nesáu at dadwneud ei chynlluniau'n llwyr.

"Mae pawb yng Nghymru eisiau gweld gwireddu S4C newydd, dim mwy o'r hen gelwydd oddi wrth y Torïaid na neb arall sy'n mynnu fod llai na hynny'n dderbyniol. Yma yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, rydym am alw ar wleidyddion i 'wneud nid dweud' a phleidleisio i dynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus."

Fe gerddodd y protestwyr draw at stondin Llywodraeth Cymru i ddadlau dros ddatganoli darlledu i Gymru.

Ychwanegodd Ms Machreth: "Mae llais unedig pobl Cymru wedi dweud eu bod nhw yn erbyn cynlluniau'r llywodraeth, ac mae'n bryd i Lywodraeth Cymru gynnig arweiniad ar y pwnc hynod bwysig hwn a mynnu fod y cyfryngau yn cael eu datganoli i Gymru.Rhaid i'r BBC yn Llundain sylweddoli bod eu bwriadau i dorri gwasanaethau yn mynd i grebachu'r cyfryngau yng Nghymru ac mae angen i S4C fod yn barod i wrando a diwygio os yw am adennill hyder pobl yn ogystal â chamu ymlaen i'r oes ddigidol.'

Yn siarad yn y rali, dywedodd Llywydd Plaid Cymru Jill Evans: "Mae'n hollbwysig bod y llywodraeth yn San Steffan yn deall bod eu gweithredoedd wedi gwylltio cymaint o bobl.

"Mae'r frwydr dros ein sianel yn parhau, yn cynnwys ar lefel Ewropeaidd. Mae gan y bygythiad i S4C effaith tu hwnt i Gymru. Mae pobl mewn gwledydd eraill sydd yn brwydro dros hawliau ieithoedd lleiafrifol yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd y sianel i'r Gymraeg ac i statws ein hieithoedd i gyd."

Llun: Jill Evans

Rhannu |