Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Tachwedd 2016

Chwilio am berson arbennig i dderbyn Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled

Tlws a roddir yn ystod Eisteddfod yr Urdd i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru yw Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled, ac mae enwebiadau yn cael eu croesawu hyd at fis Ionawr 2017.

Os ydych chi’n adnabod unigolyn sydd wedi gwneud gwaith heb ei ail gyda phobl ifanc dros y blynyddoedd, annogir chi i’w enwebu.

Gall fod yn ymwneud ag unrhyw agwedd o waith ieuenctid, cyn belled a’i fod yn waith wyneb yn wyneb gyda phobl ifanc dros 11 oed, yn wirfoddol a thu allan i oriau ysgol.

Rhaid i’r gwaith fod drwy gyfrwng y Gymraeg, neu chyda ieuenctid sy’n dysgu’r iaith. Gall hefyd fod gyda unrhyw fudiad ieuenctid.

Rhoddir Gwobr John a Ceridwen Hughes gan Dewi a Gerallt Hughes er cof am eu rhieni, John a Ceridwen, oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.

Hon fydd y 25ain flwyddyn ers iddi gael ei chynnig am y tro cyntaf.

Ar y panel dewis eleni fydd cynrychiolwyr o Fwrdd Syr IfanC yr Urdd a Mudiad Clybiau’r Ffermwyr Ifanc, Prif Weithredwr yr Urdd ac un o Gyfarwyddwyr Talaith yr Urdd.

Yn ôl Dai Bryer, Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymunedol yr Urdd: “Cyfle yw hyn i roi cydnabyddiaeth a diolch i unigolyn sydd wedi rhoi o’u hamser, i gefnogi ieuenctid Cymru, drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae’r Urdd, fel y Clybiau Ffermwyr Ifanc ac eraill yn gweld y gwaith ardderchog sydd yn cael ei wneud gan fyddin o unigolion ar draws Cymru o ddydd i ddydd, ac o wythnos i wythnos.

"Oes arweinydd yn eich ardal chi sydd yn ysbrydoledig mewn maes megis chwaraeon neu awyr agored, gyda phobl anabl neu ddysgwyr, yn y maes perfformio neu ddiwylliannol efallai, neu ddyngarol a chymdeithasol?

"Gall fod mewn unrhyw faes o dan haul fwy neu lai! Os oes rhywun yn dod i’ch meddwl chi allai gael ei ystyried fel enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled 2017, y cyfan sydd angen ei wneud ydi llenwi ffurflen enwebu syml, a gobeithio am y gorau!”

Gellir cael gafael ar y Ffurflen Enwebu drwy fynd i http://urdd.cymru/tlws neu drwy gysylltu gydag Enfys Davies ar 01239 652 163 neu enfys@urdd.org. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, 13 Ionawr 2017.

Llun: Elin Williams o Lanbedr Pont Steffan enillodd Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled 2016

Rhannu |