Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Tachwedd 2016

Enwogion yn galw am 10 ysgol gynradd Gymraeg newydd i Gaerdydd

Mae’r Archesgob Barry Morgan ymysg dros ddwsin o enwogion sydd wedi galw ar Gyngor Caerdydd i ymrwymo i agor 10 ysgol gynradd Gymraeg newydd ar draws y brifddinas dros y pum mlynedd nesaf.

Mewn llythyr agored i’r wasg, mae’r enwau blaenllaw yn dadlau bod angen agor yr ysgolion Cymraeg hyn i gyrraedd targed cenedlaethol Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ogystal ag ateb y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn y brifddinas.

Ymhlith llofnodwyr y llythyr, mae’r Cyn-Archdderwydd T. James Jones, Archesgob Cymru Barry Morgan, Bardd Cymru Gwyneth Lewis a’r Athro Christine James.

Mae’r llythyr yn dadlau bod angen i’r cyngor sicrhau darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o’r ddinas, ac i gynllunio ar gyfer y twf a ddisgwylir ym mhoblogaeth y ddinas dros y degawd nesaf.

Dywed y llythyr: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn gyda chymorth awdurdodau lleol megis Cyngor Caerdydd. Heb amheuaeth, mae'n rhaid i'r Cyngor gymryd cam mawr ymlaen er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y nod hwn, yn enwedig o ystyried y disgwylir i boblogaeth Caerdydd gynyddu dros 90,000 o fewn y ddeng mlynedd nesaf.

“Mae cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y brifddinas yn hanfodol er mwyn cyrraedd y nod, ond ar hyn o bryd nid yw cynlluniau addysg y Cyngor yn ddigonol er mwyn cyrraedd y nod nac ychwaith cwrdd â'r galw cynyddol am addysg Gymraeg. … Mae'n rhaid cryfhau'r gyfundrefn fel bod gan bawb – o ba gefndir bynnag – addysg cyfrwng Cymraeg yn eu cymuned leol; byddai hyn yn ffordd o hybu amlddiwylliannedd a thaclo amddifadedd yn y brifddinas yn ogystal.

“Galwn felly ar Gyngor Caerdydd i greu 10 ysgol gynradd Gymraeg newydd ar draws y brifddinas o fewn y pum mlynedd nesaf.

"Byddai hyn yn gychwyn da ar hybu twf y Gymraeg yng Nghaerdydd er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr, ateb y galw am addysg Gymraeg, a sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o'n dinas ac yn iaith i bawb, nid i'r rhai ffodus yn unig.“

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio deiseb i’r cyhoedd er mwyn cefnogi’r galwad sydd ar gael i’w llofnodi drwy fynd i http://cymdeithas.cymru/addysgcaerdydd.

Ychwanegodd Owain Rhys Lewis, Cadeirydd Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rhan o'r symbyliad dros ein galwad am agor deg ysgol yw amcan Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a'n trafodaethau ni yng Nghell Caerdydd ynghylch beth fyddai cyfraniad Caerdydd at hynny.

"Mae Caerdydd yn cynnwys dros 10% o boblogaeth Cymru, canran sy'n cynyddu, a bydd rhaid i o leiaf 50,000 o'r cynnydd rhwng nawr a 2050 ddod o Gaerdydd.

"Mae Cyngor Caerdydd yn darogan cynnydd anferthol ym mhoblogaeth y ddinas, ac mae'r Cynllun Datblygu Unedol yn sôn am godi dros 40,000 o dai.

“Mae’r galwad am 10 ysgol yn ymddangos yn uchelgeisiol, ond does dim lle yn ysgolion presennol y ddinas, ac mae hanes twf addysg Gymraeg yn y ddinas yn dangos y byddai'r ysgolion yma, o gael eu hagor mewn cymunedau ar draws y ddinas, yn llenwi.

"Mae'r galw am addysg Gymraeg yn enfawr, a mwyafrif ysgolion Cymraeg y ddinas yn llawn yn y dosbarth derbyn.

"Rydyn ni'n galw felly am fynd ymhellach nag ymateb i'r 'galw' tybiedig am addysg Gymraeg, a chynllunio'n strategol ar gyfer twf sylweddol mewn addysg Gymraeg yn sgil y twf ym mhoblogaeth y ddinas yn y blynyddoedd nesaf.

"Credwn hefyd fod hawl gan ddisgyblion i addysg Gymraeg heb orfod teithio allan o'u cymunedau eu hunain.”

Rhannu |