Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Tachwedd 2016

UAC yn annog siopwyr i gefnogi busnesau lleol y Nadolig yma

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog siopwyr i wneud y siopa Nadolig yn lleol er mwyn cefnogi busnesau lleol a gwledig.

Dywedodd Llywydd UAC: “Gyda’r Nadolig ar y trothwy, hoffwn annog chi i feddwl am eich busnesau gwledig a gweld a fedrwch chi brynu’n lleol, unai ar gyfer y cinio Nadolig neu ar gyfer anrhegion y teulu a ffrindiau.

“Siaradwch gyda’r cigydd lleol ynglŷn â chig dros gyfnod y Nadolig ac ewch draw i’r siop fferm leol i weld beth sydd gyda nhw i gynnig, rwy’n addo i chi y dewch o hyd i nifer o’r cynhwysion sydd angen ar gyfer y cinio Nadolig yn agos iawn at adref.

“Mae digon o siopau bach hefyd sy’n cynnig crefftau Cymreig ac anrhegion wedi cael eu cynllunio’n lleol, ac mae’r dewis ar gyfer bwyd yn niferus. 

"Mae’n werth edrych i weld beth sydd ar gael. 

"Mae’n penderfyniadau bach ni yn cael effaith eang ar ein heconomi leol.

“Mae gwario punt yn lleol yn mynd ymhellach na gwario punt mewn siop fawr ac mae’n cynnal ein heconomïau gwledig.

"Wrth gefnogi ein busnesau lleol, nid ydym yn helpu Prif Weithredwr i brynu trydydd tŷ gwyliau, ond yn helpu tad a mam leol i roi bwyd ar y bwrdd, teulu i dalu’r morgais, merch fach i gael gwersi dawnsio a sicrhau bod bachgen bach yn cael crys t ei hoff dîm bêl-droed.”

Rhannu |