Mwy o Newyddion
Rhoi cynllun ynni gwynt Brechfa ar waith
Mae gwaith i adeiladu cynllun ynni gwynt yn Sir Gaerfyrddin, a fydd yn cynhyrchu pŵer ar gyfer bron i 39,000 o gartrefi, bellach ar y gweill.
Fe fydd Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa yn cael ei hadeiladu a’i gweithredu gan Innogy Renewables UK Ltd, ar safle 140 hectar a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ran Llywodraeth Cymru (LlC).
Meddai Gordon Baird, rheolwr prosiect Rhaglen Cyflawni Ynni CNC: “Amgylchedd Cymru yw ein hased naturiol mwyaf gwerthfawr ac mae’n cyfrannu’n fawr at yr economi.
“Trwy gefnogi mentrau cynaliadwy fel un Brechfa – sef menter na fydd yn effeithio llawer ar yr ardal o’i hamgylch – credwn fod yna botensial i gynhyrchu hyd yn oed fwy er budd yr economi.”
Ym mis Mawrth 2013, rhoddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd ganiatâd datblygu ar gyfer Brechfa i Innogy Renewables UK dan ei enw blaenorol RWE Innogy UK Ltd.
Mae’r prosiect yn cynnwys 28 o dyrbinau gwynt gyda pob un â chapasiti o 2.05 MW, uwchraddio ffyrdd presennol y goedwig ac adeiladu ffyrdd newydd, gosod ceblau ar y safle ynghyd â seilwaith angenrheidiol o fath arall.
Disgwylir i’r gwaith adeiladu gymryd 20 mis i’w gwblhau ac fe fydd y goedwig yn parhau i fod ar agor tra bydd y gwaith o godi’r tyrbinau’n cael ei wneud.
Fe fydd yna gyfyngiadau mynediad oddi mewn i ardal y gwaith adeiladu, er mwyn amddiffyn iechyd a diogelwch defnyddwyr y goedwig.
Ychwanegodd Gordon: “Dyma lwyddiant mawr, sy’n cynrychioli cydweithio rhwng gwahanol adrannau yn CNC i hwyluso’r datblygiad hwn ar dir CNC.
“Fe fydd Gorllewin Coedwig Brechfa nid yn unig yn cynhyrchu digon o ynni glân i ddiwallu anghenion oddeutu 38,800 o gartrefi yn yr UK, ond fe fydd hefyd yn esgor ar fuddion ychwanegol, fel creu swyddi, defnyddio ynni gwyrdd a rhoi incwm masnachol i CNC a Llywodraeth Cymru.”
Meddai Bethan Edwards, uwch-ddatblygwr ynni adnewyddadwy Innogy ar gyfer Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa: “Dyma gyfnod cyffrous.
"Fe allai’r gwaith o adeiladu Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa gefnogi buddsoddiad sylweddol a datgloi buddsoddiadau cymunedol ar gyfer yr ardal.”
Brechfa yw’r cynllun ynni adnewyddadwy diweddaraf ar dir a reolir gan CNC, ac mae’n dilyn Pen y Cymoedd, datblygiad gyda 76 o dyrbinau sydd wrthi’n cael ei adeiladu gan Vattenfall ar draws Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot, sef y fferm wynt fwyaf yng Nghymru a Lloegr.