Mwy o Newyddion
Arweinydd Plaid yn cyhuddo’r BBC o “fethu Cymru” wrth i ffigyrau ddangos dirywiad
Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru heddiw wedi cyhuddo’r BBC o “fethu Cymru” wrth i ymchwil newydd ddangos dirywiad sylweddol yn y sylw sy’n cael ei roi gan allbwn newyddion y gorfforaeth i’r genedl ddatganoledig.
Mae astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd a gynhaliwyd yn 2015 a 2016 sydd nawr wedi ei gyhoeddi gan Ymddiriedolaeth y BBC yn dangos fod y gyfran o newyddion am Gymru wedi gostwng yn sylweddol ar deledu’r BBC o 3.8% yn 2009 i 1.4% yn 2015.
Mae’r ymchwil hefyd yn dangos mai Cymru yw’r genedl ddatganoledig sy’n cael y lleiaf o sylw – lawr o 11.9% i 10.5% rhwng 2009 a 2015.
Dywedodd Leanne Wood fod y BBC yn methu a chyflawni ei hamcanion craidd o addysgu a hysbysu ei chynulleidfaoedd a bod rhaid i’r gorfforaeth dderbyn rhan o’r bai am y diffyg democrataidd yng Nghymru sydd wedi gadael dealltwriaeth pobl o ddatganoli sawl cam y tu ol i newid gwleidyddol mewn gwirionedd.
Meddai: “Dyma adroddiad damniol sy’n datgelu methiant y BBC i gyflawni ei hamcanion craidd o addysgu a hysbysu cynulleidfaoedd, ble bynnag y maent.
“Un o’r pum prif arfer sy’n cael ei adnabod yn yr ymchwil yw “lleihad (o gyfran isel yn barod) o ran y nifer o eitemau am ac o Gymru.
“Mae sylw i straeon newyddion Cymreig nid yn unig wedi sefyll yn yr unfan ond wedi gwaethygu’n sylweddol gydag allbwn teledu yn gostwng o 3.8% i 1.4% pitw dros y saith blynedd ddiwethaf.
“Mae hefyd yn bryderus gweld cyn lleied o ymdrech yn cael ei wneud gan y BBC i’w gwneud hi’n glir i gynulleidfaoedd pa lywodraeth sy’n gyfrifol am ba faes polisi.
“Roedd y mwyafrif helaeth – 209 o’r 220 eitem Newyddion BBC am iechyd ac addysg yn berthnasol i Loegr yn unig y llynedd.
"Mae’r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru yn gartref i dros 15% o boblogaeth y DG ond eto dim ond 5% o’r sylw a roddwyd i’r gwledydd datganoledig. Mae hyn yn gwbl annerbyniol.
“Mae Cymru a’n democratiaeth eisoes yn dioddef oherwydd cyfryngau gwan a diffyg plwraliaeth.
"Mae methiant y BBC i gynnig sylw newyddion digonol i’w cynulleidfaoedd Cymreig ar y materion sy’n effeithio eu bywydau dyddiol yn gwaethygu’r broblem.
“Rhaid i’r BBC hefyd dderbyn cyfran o’r bai am ddiffyg democrataidd ein gwlad a’r ffaith fod dealltwriaeth pobl o ddatganoli yn aml yn ddryslyd a sawl cam y tu ol i newid gwleidyddol mewn gwirionedd.
“Bydd pobl yng Nghymru yn iawn i gwestiynu pam eu bod yn talu eu ffi trwydded.
"Byddaf yn ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Arglwydd Hall, i geisio sicrhad y bydd y BBC yn gweithredu ar unwaith i wella ei record er budd democratiaeth ac atebolrwydd.”