Mwy o Newyddion
Ystyried gwirfoddoli
Mae Menter Cwm Gwendraeth yn chwilio am fudiadau lleol i weithio gyda hi i ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli ar draws y gymuned.
Mae wedi cael rhwydd hynt i gyflogi Swyddog Datblygu Gwirfoddoli er mwyn annog gwirfoddoli a gweithio gyda phobl yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin.
Amcan y cynllun yw hybu gwirfoddoli a gwaith y Swyddog Datblygu Gwirfoddoli fydd recriwtio Arweinwyr Mentora Cymuned a gwirfoddolwyr.
Bydd y grwpiau targed yn cynnwys 16-25 oed, rhai dros 50, y di-waith, pobl anabl a grwpiau wedi’u tangynrychioli.
Caiff y digwyddiadau hyn eu hyrwyddo drwy ddefnyddio rhwydweithiau partneriaeth gan gynnwys y Gwasanaeth Ieuenctid, Fforwm 50+ Sir Gaerfyrddin, Canolfannau Byd Gwaith lleol a Meddygfeydd.
Bydd yn ymwneud â chefnogi datblygiad gwirfoddolwyr, rhoi sgiliau a hyder iddynt a chynyddu mentrau dysgu gydol oes.
Bydd y Fenter yn darparu cynllun datblygu ar gyfer pob gwirfoddolwr.
Mae’r cyfleoedd gwirfoddoli yn y gymuned y gobeithia Menter Cwm Gwendraeth eu darparu yn cynnwys Casgliadau Aillgylchu i rai 50+ Cyngor yr Henoed, gwasanaeth cludiant ysbytai Menter Min Nos, stiwardiaid Gŵyl Cerdd Dant 2011, dosbarthu bwyd Pryd ar Glud yng Nghwm Gwendraeth, trefnwyr gweithgareddau hwyl a sbri ar gyfer Gŵyl y Gwendraeth, clirio a thacluso traciau Rheilffordd, cyfranwyr golygyddol a gwerthwyr Papur y Cwm a’r Cynllun Hanes.
Gall unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan gysylltu â David Saywell, Menter Cwm Gwendraeth yn uniongyrchol ar 01269 871600 neu 07891 487247.
Dywed David Saywell: “Mae gan Menter Cwm Gwendraeth draddodiad hir o gynnwys gwirfoddolwyr yn ei gwaith. Y nod yw cynnig cyfle i unigolion a grwpiau ddatblygu sgiliau perthynol i’r gymuned a mentrau sy’n eu cynorthwyo i wella gwasanaethau sylfaenol yn eu hardaloedd. Y nod hefyd yw gweld beth yw’r atebion ymarferol i faterion gwledig lleol ar lefel sylfaenol yn deillio o’r cymunedau eu hunain.
“Ar gyfer gwirfoddolwyr sydd ar siwrnai o ddatblygu eu hunain a’u sgiliau , bydd cyngor yn cael ei ddarparu ar gyfleoedd gwirfoddoli pellach sydd ar gael o fewn y sir.”