Mwy o Newyddion
Cefnogi 'Byw Heb Ofn'
Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Merched ac i nodi a chefnogi’r achlysur, bu Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllian yn ymweld â’r ganolfan sy’n rhedeg y gwasanaeth llinell cymorth genedlaethol o’r enw Byw Heb Ofn, Live Fear Free , sydd mewn lleoliad cyfrinachol yn etholaeth Arfon.
Meddai’r Aelod Cynulliad: “Mae’r llinell gymorth yn wasanaeth ardderchog ar gyfer unrhyw un sydd am drafod camdriniaeth ddomestig, trais rhywiol neu drais yn erbyn merched.
"Mae’r ganolfan yn Arfon ond nid yw’n briodol i ddatgelu union leoliad y ganolfan.
"Mae’r staff yno yn derbyn galwadau ffôn gan bobl ar draws Cymru.
"Mae gan y staff sgiliau arbennig a phrofiad o gynnal sgyrsiau anodd mewn ffordd sensitif a chyfrinachol’."
Mae’r staff hefyd ym meddu sgiliau dwyieithog ac mae’r gwasanaeth yn enghraifft dda iawn o ddarpariaeth sy’n gallu cael ei gynnal o’r tu draw i Gaerdydd a’r de ddwyrain ac eto’n gallu cynnig gwasanaeth i bawb yng Nghymru.
Yn ddiweddar, cafodd Byw Heb Ofn un o’r prif wobrau ar gyfer llinellau cymorth mewn seremoni yn Llundain.
Mae 96% o’r galwadau sy’n cael ei derbyn yn dod gan ferched ac mae’r ganolfan yn trin oddeutu 28,500 o alwadau pob blwyddyn – yn ychwanegol i alwadau allan i asiantaethau cefnogol.
Mae’r ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r gwasanaethau cyhoeddus a’r heddlu a gyda rhwydwaith llochesi ar draws y Deyrnas Unedig.
Does dim angen i unrhyw un roi eu henw wrth ffonio. Rhif Ffôn Byw Mewn Ofn yw 0808 8010 800.
Llun: Siân Gwenllian efo Ann Williams, rheolwraig Byw heb Ofn