Mwy o Newyddion
Plaid yn galw am weithredu i reoli cyflogau uchel yn y sector cyhoeddus
Heddiw bydd Neil McEvoy AC Plaid Cymru dros Ganol De Cymru yn arwain dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol ar raddfeydd tâl mewn awdurdodau lleol Cymreig a’r sector cyhoeddus ehangach.
Mae cynnig sydd wedi ei osod gan Blaid Cymru yn amlygu’r bwlch rhwng y gweithwyr sy’n cael eu talu fwyaf a lleiaf mewn awdurdodau lleol a’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru, gan alw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i gyflwyno graddfeydd tâl cenedlaethol a thelerau ac amodau i reoli cyflogau prif ac uwch swyddogion.
Dywedodd Neil McEvoy y byddai hyn yn sicrhau cyflog teg i holl weithwyr sector cyhoeddus Cymru a dod â chyflogau prif swyddogion dan reolaeth.
Wrth siarad cyn y ddadl heddiw dywedodd Neil McEvoy: “Byddaf yn defnyddio dadl heddiw i daflu goleuni ar gyflogau annerbyniol o uchel rhai prif weithredwyr a phrif swyddogion mewn rhai awdurdodau lleol.
“Mae’r pecynnau cyflog gwarthus hyn eisoes wedi denu beirniadaeth.
“Mae Prif Weithredwyr rhai awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn ennill yn sylweddol fwy na’r Prif Weinidog. Nid yw hynny’n iawn.
“Nawr, mae Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i weithredu’n gadarn ac i ddeddfu i gyflwyno cyfraddau tâl wedi eu gosod yn genedlaethol i reoli cyflogau uwch yn y sector cyhoeddus.
“Mewn cyfnod pan fo teuluoedd cyffredin yn cael eu gorfodi i gyfri’r ceiniogau a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri i’r byw, mater syml o egwyddor yw hi y dylai’r llywodraeth gymryd camau i roi terfyn ar gyflogau uchel mewn awdurdodau lleol a’r sector cyhoeddus ehangach unwaith ac am byth.
“Rhaid i ni ddod a chyflogau uchaf y sector cyhoeddus dan reolaeth a sicrhau cyflog teg i’n gweithwyr mwyaf diwyd yn y sector cyhoeddus.”
Llun: Neil McEvoy