Mwy o Newyddion
Oedi pellach i gynllun atal llifogydd yr A55 yn 'gwbl annerbyniol'
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams a'r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu eglurhad llawn ynglŷn â pham fod mesurau a gynlluniwyd i atal llifogydd ar yr A55 yn Abergwyngregyn dal heb wedi eu rhoi ar waith.
Roedd gwaith i liniaru llifogydd rhwng Cyffordd 12 a Chyffordd 13 o'r ffordd ddeuol i fod i gychwyn yn gynharach yn yr hydref.
Dywedodd Hywel Williams AS: “Unwaith eto, mae ffordd ddeuol yr A55 rhwng Tai Meibion ??a Abergwyngregyn wedi ei chau, gan achosi problemau teithio difrifol i yrrwyr.
“Er fy mod yn croesawu cynllun lliniaru llifogydd a gwblhawyd yn ddiweddar yn Nhalybont, yn sgil pwysau gan bobl leol, mae’r broblem barhaus hon ar yr A55 yn parhau i fod heb ei datrys.
“Dywedodd Llywodraeth Cymru fod mesurau i liniaru llifogydd rheolaidd ar yr A55 i fod i ddechrau yn yr hydref.
"Ond dyma ni, ychydig wythnosau cyn y Nadolig ac rydym yn dal i aros am ddyddiad dechrau.
“Mae pobl wedi cael digon o’r llifogydd parhaus ar y rhan orllewinol yma o'r A55.
"Pe byddai’r A55 yn y de, yr wyf yn siŵr y byddai camau adferol wedi cael eu cymryd yn barod.
“Mae angen sicrwydd gan Lywodraeth Lafur Cymru fod gwaith i atal llifogydd pellach ar yr A55 yn dechrau o ddifrif. Ni all gyrrwyr yng ngogledd Cymru ddisgwyl ymhellach.”
Dywedodd Siân Gwenllian AC: “Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau gweithio ar unwaith ar fesurau atal llifogydd rhwng Cyffordd 12 a Chyffordd 13 ar yr A55; gwaith a ddylai fod wedi dechrau erbyn hyn.
“Byddai'r gwaith hwn wedi atal llifogydd neithiwr ac mae’r oedi pellach wrth weithredu'r gwelliannau angenrheidiol yn amlwg yn annerbyniol. Byddaf yn gofyn am esboniad llawn am yr oedi hwn.”