Mwy o Newyddion
Ymgynghorwyr meddygol yn cefnogi galwad am ysgol feddygol ym Mangor
Mae ymgyrch Aelod Cynulliad Arfon Siân Gwenllian dros Ysgol Feddygol ym Mangor yn ennyn cefnogaeth o bob cyfeiriad, ac yn dilyn cefnogaeth myfyrwyr meddygol yr wythnos diwethaf, y rhai diweddaraf i roi eu henwau i’r ymgyrch yw Dr Rhys Davies, Ymgynghorydd Niwrolegol yn Ysbyty Walton, Lerpwl a Phillip Moore, Llawfeddyg Ymgynghorol yn yr adran Clust, Trwyn a Gwddf yn Ysbyty Gwynedd Bangor.
"Mae'n hollbwysig ein bod ni'n dechrau cynhyrchu mwy o ddoctoriaid lleol, a sefydlu Ysgol Feddygol yw'r ffordd orau o gyflawni hyn," meddai Phillip Moore, sydd yn ymddangos yn gyson yn y gyfres Ward Plant ar S4C.
Dywedodd Dr Rhys Davies sydd yn gweithio yn Ysbyty Walton, Lerpwl ac yn dod yn wreiddiol o Nefyn: “Mae'r cais am ysgol feddygol ym Mangor yn haeddu pob cefnogaeth.
"Byddai'r Ysgol yn sylfaen i addysg feddygol Cymry dwyieithog ifanc, ac yn tynnu pobl ifanc talentog i Gymru.
"Byddai'n fodd i ddiwallu yr angen am feddygon i wasanaethu y Gymru wledig.”
Mae deiseb a ddechreuwyd gan Blaid Cymru Arfon i’r rhai sydd yn cefnogi’r ymgyrch wedi denu cannoedd o enwau yn barod, ac mae’r pwysau yn cynyddu ar Lywodraeth Cymru i roi strategaeth mewn lle a fydd yn ymateb i’r angen am Ysgol Feddygol ym Mangor a fydd yn fodd i sefydlogi gwasanaethau meddygol mewn ysbytai a chymunedau ar draws y gogledd.
Llun: Siân Gwenllian a Phillip Moore