Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Tachwedd 2016

2071: arbrawf newydd i’r theatr Gymreig

A fyddwch chi yma yn y flwyddyn 2071? Sut bydd ein byd i’r rhai sy’n byw ynddo?
Mae’r actor Wyn Bowen Harries wrthi’n cynhyrchu sioe arbrofol newydd ar newid hinsawdd.

Mae Cwmni Pendraw yn apelio i bobol ifanc a disgyblion ysgol yn arbennig i ddod i weld 2071 Gwaith ar y Gweill am ddim, cyn trafod sut fyd y byddant yn ei etifeddu yn y dyfodol.

Mae hefyd yn eu gwahodd i rannu eu hymateb i’r cynhyrchiad, sydd yn plethu llefaru a fformat dogfen gyda cherddoriaeth a delweddau.

Gwyddonydd blaenllaw sy’n trafod ei syniadau ar newid hinsawdd yn 2071 Gwaith ar y Gweill, ynghyd a’i farn am sut fyd y bydd ei wyres fach yn etifeddu yn 2071 pan fydd hithau’n cyrraedd yr un oed ag y mae o heddiw.

Yn dilyn poblogrwydd ffilmiau dogfen ffeithiol, sydd yn gynyddol boblogaidd mewn sinemâu ac ar gyfryngau ffrydio, mae’r sioe yn defnyddio ffeithiau fel sail i’r sioe ac yn addasu’r rhaglen ddogfen i ddiddanu cynulleidfa theatr.

Mae’n gweddu i’r dim gyda bwriad Cwmni Pendraw i greu cynyrchiadau newydd er mwyn cyfuno hanes, gwyddoniaeth a cherddoriaeth drwy gyfrwng theatr.

Wyn Bowen Harries sy’n siarad geiriau’r Athro Chris Rapley yn y ddrama.

Mae’r ddrama yn addasiad o sgript gan yr Athro Rapley a Duncan Macmillan a berfformiwyd yn y Royal Court Theatre, Llundain a’r Hamburg Schauspielhaus mewn cynhyrchiad gan Katie Mitchell.

Meddai Wyn Bowen Harries: “Arbrawf yw hwn. Arbrawf i weld os oes modd defnyddio geiriau, cerddoriaeth a delweddau i archwilio pwnc cymhleth ac emosiynol.

“Rydw i wedi cyfieithu’r ddrama ac wedi ei diweddaru er mwyn cynnwys gwybodaeth wyddonol newydd.

“Er mai dyddiaduron dros 250 o flynyddoedd oed oedd ffynhonnell ein sioe ddiwethaf, Mr Bulkeley o’r Brynddu, mae themâu clir yn gyffredin.

“Ceisio deall ei fyd drwy arsylwi ar y tywydd a chofnodi’r hyn yr oedd yn ei weld ar ei ystâd oedd William Bulkeley yn ei ddyddiaduron.

“Mae gwyddoniaeth wedi datblygu’n bell ers y cyfnod, ac mae gennym ddealltwriaeth llawer mwy manwl o’r hyn sy’n digwydd i’n hinsawdd erbyn hyn.

“Yr hyn sydd gennym yw’r persbectif personol, ymgais gan wyddonydd byd enwog sydd wedi cyfrannu at y wybodaeth yna i rannu’r hyn a wyddai a hefyd i ymdopi â’r wybodaeth sydd ganddo ar lefel bersonol iawn iddo ef a’i deulu.

“Rwy’n gobeithio y bydd y gynulleidfa, yn enwedig y to ifanc, yn awyddus i drafod newid hinsawdd  a’r hyn y mae’n ei olygu iddyn nhw’n bersonol ac ar lefel leol yn ogystal ag ar lefel byd-eang.”

Y panelwyr yn Galeri fydd yr amgylcheddwraig Elinor Gwynn (cadeirio) a’r gwyddonydd hinsawdd Yr Athro Gareth Wyn Jones. Yn Neuadd Ogwen Bethesda bydd yr hanesydd Nia Watcyn Powell (cadeirio) a’r gwyddonydd, Yr Athro Deri Tomos. Bydd y perfformwyr Wyn Bowen Harries ac Angharad Jenkins ar y ddau banel.

Y cerddor Angharad Jenkins (sy’n aelod o’r grwpiau Calan a DnA ymysg projectau eraill) sydd wedi cynhyrchu cerddoriaeth wreiddiol i gyd-fynd â’r geiriau a’r delweddau gan Siôn Eirwyn Richards.

Cam cyntaf yw’r perfformiadau 2071 Gwaith ar y Gweill yng Nghaernarfon (Galeri, 8 Rhagfyr) a Bethesda (9 Rhagfyr) er mwyn datblygu syniadau gyda’r gobaith o’i gyflwyno ar daith ac ar gyfer Eisteddfod 2017.

Mae’r tocynnau yn £5, ond am ddim i fyfyrwyr a disgyblion ysgol.

Rhannu |