Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Awst 2011

Dysgwr y Flwyddyn

Kay Holder o Ddinas Powys yw enillydd wobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011.

Roedd tri arall ar y rhestr fer eleni, Cat Dafydd, Neil Wyn Jones a Sarah Roberts, ond penderfynodd y beirniaid, Dafydd Griffiths, Helen Prosser a Dyfed Thomas mai Kay Holder ddaeth i'r brig.

Roedd 21 o bobl wedi cystadlu am y fraint o ennill y wobr, gyda cheisiadau o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, wedi'r seremoni yn Neuadd Goffa Wrecsam: "Roedd safon y cystadlu eleni'n uchel iawn, ac mae'n amlwg bod Kay wedi gwneud argraff arbennig ar y beirniaid i ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni."

Mae Kay wedi bod yn dysgu Cymraeg ar lefel hyfedredd gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg eleni.

Yn wreiddiol o Benarth, mae Kay'n parhau i fyw ym Mro Morgannwg yn Ninas Powys. Mae Kay yn gweithio fel tiwtor preifat Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008, ac mae'n rhan o'r trefniadau ar gyfer yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg y flwyddyn nesaf.

Dywed Kay: "Es i'r i ddarganfod iaith, byd a diwylliant newydd. Dechreuais i ddysgu'r delyn ar Faes yr Eisteddfod yng Nghaerdydd hefyd, ac erbyn hyn rydw i wedi sefyll arholiad Gradd 3. Felly, newidiodd yr Eisteddfod a'r iaith fy mywyd!"

Dechreuodd Kay ddysgu Cymraeg drwy lyfrau wrth fyw yn Lloegr, ac yna symudodd yn ôl i Gymru ac mae'n mynychu dosbarthiadau Gloywi a Siawns am Sgwrs 4 gyda Canolfan Cymraeg Caerdydd a Bro Morgannwg ers mis Hydref.

Rhannu |