Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Tachwedd 2016

£5m i sicrhau bod band eang cyflym iawn ar gael i bob ysgol yng Nghymru

MAE’R Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cael y cyfle i fanteisio ar wasanaethau band eang cyflym iawn, diolch i £5m o gyllid newydd.

Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o ysgolion Cymru yn gallu cael gwasanaethau band eang, sef  cysylltiadau 10Mbps i ysgolion cynradd, a 100Mbps i ysgolion uwchradd, sydd wedi eu darparu o dan raglen grantiau Dysgu yn y Gymru Ddigidol.

Fodd bynnag, mae oddeutu 400 o ysgolion yn methu â diwallu’r galw am wasanaethau band eang cyflymach oherwydd cyfyngiadau eu seilwaith presennol.  

Bydd y rhaglen fuddsoddi newydd hon yn helpu i unioni’r anghydraddoldebau hynny, drwy sicrhau bod holl ysgolion Cymru yn cael y dechnoleg a’r seilwaith y mae eu hangen i ddiwallu eu hanghenion.

Caiff pob ysgol ei gwerthuso i weld beth fyddai’r ffordd orau o uwchraddio eu hadnoddau, gan ystyried eu hangen i gynyddu lled y band wrth i’r galw am ddysgu digidol barhau i dyfu.

O ganlyniad, bydd pob ysgol yn ddiwahân yn cael mynediad at adnoddau dysgu digidol Llywodraeth Cymru drwy Hwb, sef y platfform sy’n cael ei ariannu’n ganolog ac sy’n caniatáu i athrawon a disgyblion fynd at adnoddau digidol a’u defnyddio yn y dosbarth.

Roedd blaenoriaethu’r angen i sicrhau bod ysgolion yn cael mynediad at fand eang cyflym iawn yn rhan allweddol o’r cytundeb blaenllaw a wnaed rhwng y Prif Weinidog a Kirsty Williams.

Dywedodd Kirsty Williams: “Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau a chreu cyfleoedd i’n holl bobl ifanc.

“Fel rhan o hyn, rydyn ni’n creu cwricwlwm sy’n addas i’r 21ain ganrif.

“Dyna pam dw i’n cyhoeddi bod £5m yn cael ei roi i sicrhau bod gan bob ysgol yng Nghymru y seilwaith y mae ei angen i baratoi disgyblion ar gyfer y byd modern.

“Mae’r arian hwn yn dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi yn sgiliau digidol ein dysgwyr a’n system addysg er mwyn gwireddu ein gweledigaeth.”

Mae’r newidiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i addysgu a dysgu mewn ysgolion – gan gynnwys y Fframwaith Cymhwysedd Digidol – yn golygu y bydd sgiliau digidol yn dod yn rhan gynyddol bwysig o bob elfen o’r cwricwlwm yng Nghymru.

Bydd angen i ddisgyblion allu defnyddio sgiliau digidol ym mhob rhan o’u haddysg, yn hytrach na dim ond mewn dosbarthiadau TGCh neu gyfrifiadureg.

Rhannu |