Mwy o Newyddion
Prifysgol Aberystwyth yn trafod buddugoliaeth Trump
Bydd buddugoliaeth Donald Trump yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau yn cael ei dadansoddi mewn trafodaeth ford gron ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Iau 29 Tachwedd.
Trefnir y noson gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Sefydliad Coffa David Davies, a bydd panel o arbenigwyr yn trafod canlyniadau'r etholiad, yn codi cwestiynau ac yn taflu ychydig oleuni ar drefn newydd y byd.
Pennaeth yr Adran a deiliad Cadair E H Carr, yr Athro Richard Beardsworth, fydd yn cadeirio, ac aelodau’r panel fydd:
- Yr Athro Ken Booth, Uwch Ymchwilydd Cyswllt, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth
- Dr Warren Dockter, Darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth
- Yr Athro Patrick Thaddeus Jackson, Deon Cyswllt, American University, Washington D.C ac Athro Gwadd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth
- Dr Jenny Mathers, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth
- Dr Jan Ruzicka, Darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth
Mae’r ddadl yn dilyn noson arbennig a drefnwyd gan yr Adran nos Fawrth 8 Tachwedd pan ddaeth mwy na 200 o staff a myfyrwyr at ei gilydd tan oriau mân fore Mercher i wylio’r canlyniadau wrth iddynt gael eu cyhoeddi yn yr Unol Daleithiau.
Dywedodd yr Athro Richard Beardsworth: "Yn yr un modd â gweddill y byd, bu ein myfyrwyr a’n staff yn dilyn y canlyniadau rhyfeddol ar noson yr etholiad yn ogystal â’r ymgyrch ryfeddol, llawn troadau annisgwyl, arweiniodd at 8 Tachwedd.
"Mae’r canlyniad yn codi cwestiynau arwyddocaol pellach ynghylch gwleidyddiaeth ddomestig a thramor America a fydd yn cael eu trafod yn y digwyddiad bord gron diweddaraf hwn.
"Ein nod yw ceisio esbonio a deall yr heriau a ddaeth ar ein gwarthaf yn sgil y newid aruthrol hwn, ac i roi persbectif hanesyddol ar y canlyniad."
Cynhelir y drafodaeth rhwng 6.30 a 9 yr hwyr, Nos Iau 29 Tachwedd 2016 ym Mhrif Neuadd adeilad Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Campws Penglais. Mynediad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i bawb.