Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Tachwedd 2016

Cymhorthfa arbennig i helpu pobl â biliau dŵr

Bydd Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams yn cynnal cymhorthfa arbennig ym Mangor ddydd Gwener yma, 25 Tachwedd, sy’n rhoi cyfle i etholwyr drafod ffyrdd posib o arbed arian ar eu biliau dŵr.

Mae Hywel Williams AS yn annog gweithwyr ar gyflogau isel yn ei etholaeth i fanteisio ar dariff HelpU gan Ddŵr Cymru, sydd wedi ei deilwra’n arbennig ar gyfer cartrefi gyda lefel incwm llai na £15,000 y flwyddyn.

Cynhelir y gymhorthfa arbennig yng Nghanolfan MATRA Maesgeirchen, Bangor ar Ddydd Gwener Tachwedd 25, 2016 rhwng 4.00-6.00yp.

Bydd cymhorthfa tebyg yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Noddfa Caernarfon gyda Siân Gwenllian AC ar ddydd Llun Tachwedd 28 rhwng 4.00-6.00yp.

Dywedodd Hywel Williams: “Mae Dŵr Cymru'n dweud y gallai miloedd o gwsmeriaid elwa o dariff HelpU-a gallai rhai o'r bobl hyn haneru eu biliau dŵr a charthffosiaeth blynyddol.

“Y cyfan sydd ei angen i'r bobl ei wneud yw cysylltu â'r cwmni, a chânt gymorth i newid i'r tariff HelpU.

“Gallai llawer iawn o bobl yn yr etholaeth yma elwa o’r fenter hon, a hoffwn annog pobl i ystyried a ydynt yn gymwys, ac i gysylltu â'r cwmni ar unwaith os ydyn nhw neud ddod i’m gweld yn y gymhorthfa i drafod ymhellach.

“Rydyn ni'n gwybod bod biliau dŵr llawer o bobl yn fwy na phump y cant o incwm eu haelwyd - ac felly mae hi'n gallu bod yn anodd eu talu.

“Mae arbedion mawr ar gael i bobl ag incwm isel. Os nad ydych chi'n gymwys eich hun, efallai eich bod chi'n adnabod rhywun arall sy'n gymwys. Os felly, lledaenwchwch y gair, a rhannwch y wybodaeth werthfawr yma â nhw.”

Mae 60,000 o gwsmeriaid eisoes yn elwa ar dariffau cymdeithasol Dŵr Cymru ar gyfer biliau dŵr a charthffosiaeth. 

Rhannu |