Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Tachwedd 2016

Mentro Mwy - Edrych ymlaen at chwarter canrif llewyrchus i’r Gymraeg

Yn nathliadau 25 mlynedd y Mentrau Iaith yn Aberystwyth, edrych ymlaen at y 25 mlynedd nesaf oedd y brif neges.

Wedi cyrraedd y garreg filltir o chwarter canrif roedd hyn yn gyfle i ddathlu'r gwaith clodwiw sydd wedi’i gyflawni, ond hefyd i drafod sut mae addasu a datblygu i’r dyfodol.

Roedd Alun Davies, AC, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes yn bresennol i ddangos cefnogaeth i’r Mentrau Iaith a dywedodd yn ei araith: “Rydym yn falch bod y Mentrau’n ymateb i'r strategaeth iaith mewn ffordd uchelgeisiol - rydym yn sôn am greu un miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Dydyn ni ddim yn sôn am 1 miliwn yn cymryd arholiadau a ddim yn cael y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg ar ôl hynny - rydym yn sôn am filiwn sy'n defnyddio’r iaith ac yn hyderus i wneud a hefyd yn cael cyfle i'w ddefnyddio.

"Mae yna gyfrifoldeb arnom ni gyd fel Cymry ac fel cymunedau i sicrhau dyfodol yr iaith, ac rydym yn cydnabod y cyfraniad mae'r Mentrau Iaith wedi’i wneud a chydnabod y cyfraniad bydd y Mentrau’n gwneud yn y dyfodol.”

Yn ystod y digwyddiad cyflwynwyd dogfen newydd, sef proffil y Mentrau, sy’n amlinellu’r gwaith mae'r 23 o Fentrau ar draws Cymru wedi’i gyflawni yn ein cymunedau, ond yn fwy pwysig yn gosod y sylfaen am y cyfnod nesaf.

Gyda’r cyfleoedd i weithredu a chryfhau’r iaith Gymraeg ym mhob cwr o Gymru, bydd gweithredu’r chwe phwynt canlynol yn flaenoriaeth tymor byr:

  • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf i gymunedau Cymru ar gyfer y Gymraeg
  • Gweithredu fel partner allweddol wrth gefnogi’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
  • Ymchwilio I ffyrdd newydd o gydweithio a’n gilydd a phartneriaid
  • Sefydlu rhwydwaith torfol o gefnogwyr a gwirfoddolwyr
  • Sicrhau gwasanaethau o safon uchel a chyson gan y Mentrau Iaith
  • Anelu at sicrhau cyllid ychwanegol i alluogi'r Mentrau i gynnig lefel gyson o wasanaethau ar draws Cymru

Dywedodd Owain Gruffydd, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru: “Mae’r Mentrau’n gyrff sy’n tyfu a datblygu’n gyson, a hynny mewn ymateb i anghenion a dyheadau cymunedau Cymru.

"Mae'r Mentrau Iaith ar draws Cymru yn wahanol ac yn unigryw, i adlewyrchu eu hardaloedd, ond y weledigaeth sy’n clymu’r cyfan yw gweld y Gymraeg yn datblygu’n iaith gymunedol fyw ym mhob rhan o Gymru.”

Am ragor o wybodaeth am waith y Mentrau Iaith yn eich ardal chi, ewch i wefan www.mentrauiaith.cymru

Rhannu |