Mwy o Newyddion
Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl gweld cynnydd yng nghyllid S4C
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud ei bod yn disgwyl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi cynnydd yng nghyllideb S4C dros yr wythnosau nesaf o ganlyniad i ddatganiad Hydref y Canghellor ddydd Mercher yma.
Rhwng 2010 a 2015, gwnaed toriadau o 40% i gyllideb S4C gan Lywodraeth Prydain, ac arbedon nhw 93% o’u grant i’r unig sianel Gymraeg.
Datganodd maniffesto’r Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 2015 y byddai’r blaid yn “diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C” yn ystod tymor pum mlynedd y Senedd hon.
Mewn llythyr at Karen Bradley AS, Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth Prydain, dywed Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “[Rydym yn] edrych ymlaen at eich cyhoeddiad am y gyllideb ar gyfer S4C dros yr wythnosau nesaf.
"Mae S4C, yr unig sianel deledu Cymraeg yn y byd, yn unigryw yng ngwledydd Prydain gan iddi gael ei sefydlu a’i diogelu o ganlyniad i ymgyrchoedd torfol gan bobl Cymru. Nid sianel gyffredin mohoni felly.
“Hyderwn y byddwch chi’n anrhydeddu’r ymrwymiadau clir a wnaed gan y Llywodraeth ynghylch S4C dros y blynyddoedd diwethaf i ddiogelu cyllideb y darlledwr trwy dymor bum mlynedd y Senedd hon.
“… byddwch yn ymwybodol o’r ymrwymiad clir ym maniffesto’r Ceidwadwyr yn 2015 i ‘diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C.’ Gwyddom yn ogystal y byddwch yn ymwybodol o’r penderfyniad a wnaed gan eich rhagflaenydd yn sgil pwyso cyhoeddus i ddiogelu cyllideb S4C cyn i adolygiad y sianel gael ei gwblhau...
“Yn wir, yng ngoleuni’r addewidion clir hyn gan eich Llywodraeth, disgwyliwn i chi ddiogelu cyllideb S4C drwy gynyddu eich grant ar ei chyfer yn ôl chwyddiant ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd modd i adolygiad y sianel wedyn ystyried y posibiliad o gynnydd pellach yn y gyllideb.
“Ymhellach, nodwn fod Gwasanaeth y Byd wedi cael eu hehangu yn ddiweddar fel bod modd iddynt ddarlledu mewn rhagor o ieithoedd.
"Hyderwn y bydd y twf mewn gwasanaethau darlledu mewn ieithoedd eraill yn golygu y bydd twf cyfatebol yn y gwasanaethau darlledu cyhoeddus sydd ar gael yn Gymraeg.
“Edrychwn ymlaen yn eiddgar at eich cyhoeddiad ynghylch amseriad a manylion yr adolygiad.
"Ymysg pethau eraill, dadleuwn fod angen fformiwla ariannol statudol sy’n cynnig gwir sicrwydd ariannol i’r sianel yn ogystal â phenderfyniad i ddatganoli’r arian a chyfrifoldeb dros ddarlledu i Gymru fel na fydd angen i ni, fel mudiad gwirfoddol, atgoffa Llywodraeth Prydain yn flynyddol o’i dyletswyddau a’i hymrwymiadau i’r unig sianel deledu Cymraeg ei hiaith.”
Llun: Carl Morris