Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Tachwedd 2016

Dylai Llywodraeth y DG fod yn onest ynghylch cynlluniau am fasnachu gydag UDA - Leanne Wood

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi galw ar Lywodraeth y DG i fod yn onest ynghylch a ydynt yn cynllunio cytundeb masnach rydd gyda’r Unol Daleithiau ar ôl Brexit.

Ymgyrchodd ei phlaid yn gryf yn erbyn y Bartneriaeth Fasnach a Buddsoddi Trawsiwerydd – neu’r TTIP- cytundeb masnach a gynlluniwyd rhwng yr Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd.

Ymddengys bod TTIP bellach wedi ai atal, gyda llawer o aelod-wladwriaethau’r UE yn methu â chytuno â’i ddarpariaethau.

Yr oedd Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r darpariaethau yn TTIP a fuasai wedi creu llysoedd corfforaethol, lle gallai cwmnïau preifat fynd â llywodraethau i gyfraith petaent yn tybio bod polisiau yn cwtogi ar eu helw.

Arweiniodd y blaid ddadl yn y Cynulliad Cenedlaethol a gadarnhaodd y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi feto ar TTIP petai’n bygwth gwasanaethau cyhoeddus, a phetaent yn cael pleidlais.

Dadleuodd y blaid fod Cymru eisoes yn masnachu’n helaeth gydag Gogledd America heb fod angen TTIP.

Mae ethol Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi codi cwestiynau ynghylch dyfodol cysylltiadau trawsiwerydd.

Mae Ms Wood yn rhybuddio na wyddom ddim am agenda Mr Trump ynghylch masnachu â’r DG, ond y gallai unrhyw ymgais gan America i symud tuag at ddiffyndollaeth ddangos diffyg strategaeth a dewisiadau y llywodraeth Geidwadol.

Mae Llywodraeth y DG wedi dweud dro ar ôl tro eu bod eisiau masnachu mwy gyda Gogledd America fel dewis arall yn lle’r UE.

Yn ddiweddar, lansiodd Plaid Cymru ymgyrch i gael atebion am Brexit, gan gyflwyno cwestiwn ysgrifenedig bob dydd yn Senedd y DG ac yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Meddai Leanne Wood: “Mae angen i’r llywodraeth Dorïaidd fod yn onest a dweud a ydynt am wneud bargen ar batrwm TTIP gyda’r Unol Daleithiau.

“Gyda Datganiad yr Hydref ar y gorwel, bydd y rhagolygon economaidd yn ystod y trafodaethau ar Brexit yn effeithio ar swyddi Cymru ledled Cymru.

“Yr wythnos diwethaf, gwnaeth Theresa May hi’n glir mai hybu masnach rydd a marchadoedd rhydd oedd ei blaenoriaeth, er nad yw llawer o bobl yng Nghymru wedi gweld manteision masnach rydd.

“Gwrthwynebodd Plaid Cymru TTIP ond rhybuddiodd y buasai’r Torïaid, o gael eu torri’n rhydd o’r UE, yn ceisio llunio eu fersiwn eu hunain.

“Buasai TTIP wedi rhoi’r grym i lysoedd corfforaethol ymyrryd ym mhenderfyniadau democrataidd llywodraethau.

"Buasai wedi gadael ein gwasanaethau cyhoeddus yn agored i elw preifat.

"Ni fuasai Plaid Cymru erioed wedi cefnogi unrhyw beth fyddai wedi preifateiddio ein GIG.

“Ataliwyd TTIP yn Ewrop gan ymgyrchwyr a llywodraethau.

"Nid y dde eithafol a’i hataliodd.

"Rhaid i ni aros yn effro i weld nad yw’r bobl hyn yn ceisio gwneud TTIP bychan rhwng y DG a’r Unol Daleithiau.

“Wyddom ni ddim beth yw agenda Donald Trump ar fasnachu gyda’r DG.

"Ac er nad oes gen i fawr o ffydd yn ei allu i blesio ei etholwyr, fe allai droi’n fwy o ddiffyndollwr.

"Byddai hyn yn datgelu diffyg strategaeth a dewisiadau’r llywodraeth Geidwadol.

"Ond mae posibilrwydd, unwaith y bydd yn ei swydd, y bydd yn gweithredu fel unrhyw neo-ryddfrydwr arall.

“Mae angen i’r Torïaid fod yn onest am eu cynlluniau ar gyfer masnachu gyda Trump, a bydd Plaid Cymru yn holi cwestiynau am hyn fel rhan o’n hymgyrch am atebion ar Brexit."

Rhannu |