Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Tachwedd 2016

Byddwch yn wyliadwrus o newyddion ffug – Rhun ap Iorwerth AC

Mae Cyfarwyddwr Cyfathrebu Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi codi pryderon fod y ffenomena ryngrwyd o newyddion ffug wedi cyrraedd Cymru, yn dilyn adroddiadau y gallai straeon o’r fath fod wedi effeithio ar etholiad yr Unol Daleithiau.

Mewn cynhadledd i’r wasg yn Berlin dywedodd yr Arlywydd Barack Obama: “Os nad ydym ni o ddifri ynglŷn â ffeithiau a’r gwahaniaeth rhwng gwir a chelwydd, os nad ydan ni yn gallu gwahaniaethu rhwng dadleuon call a phropaganda, yna mae gennym ni broblemau.”

Roedd gwefannau newyddion ffug wedi bod yn lledaenu anwiredd am ymgeisydd y Democratiaid Hillary Clinton, gyda dadansoddiad gan Buzzfeed yn awgrymu bod straeon o’r fath wedi cael eu darllen yn fwy eang na newyddion go iawn.

Gan gyfeirio at achosion tebyg yng Nghymru, mae Rhun ap Iorwerth wedi nodi bod tudalen Facebook o’r enw ‘Wales for a United Kingdom’ wedi bod yn postio nonsens o’r fath am Blaid Cymru.

Roedd un post a gafodd ei gyhoeddi ar Sul y Cofio yn honni yn gelwyddog fod Plaid Cymru wedi “gwrthod gwahoddiad i fynd i’r digwyddiad Sul y Cofio yn Llundain”.

Mewn gwirionedd roedd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams yn bresennol yng ngwasanaeth Senotaff Sul y Cofio, ac yn hwyrach mewn digwyddiad yn y Swyddfa Dramor, yn cynrychioli Plaid Cymru.

Fe wnaeth nifer o gynrychiolwyr eraill o Blaid Cymru fynychu digwyddiadau ledled y wlad.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae’r ffenomena fyd-eang o newyddion ffug yn destun pryder dwfn.

“Rwy’n deall ei fod yn anodd i Facebook reoli’r cynnwys mae pobl yn ei bostio ar y platfform gan ystyried pwysigrwydd rhyddid barn ac nad ydi’r unigolion hyn yn torri unrhyw gyfraith.

“Felly byddwn yn erfyn ar bobl sydd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i drin ‘newyddion’ honedig o ffynonellau anghyfarwydd gyda lefel iach o amheuaeth.

“Mae lluosogrwydd o fewn y wasg yn hanfodol ar gyfer unrhyw ddemocratiaeth iach, ond dyw straeon sydd wedi eu creu er mwyn niweidio enw da unigolion, cyrff a phleidiau gwleidyddol yn gwneud dim heblaw gwenwyno disgwrs cyhoeddus.

“Rwy’n siomedig yn enwedig gyda’r stori dan sylw gan ei fod wedi defnyddio achlysur dwys Sul y Cofio er mwyn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol rhad.

“Mae ffeithiau yn sanctaidd. Fel newyddiadurwr ac aelod o’r NUJ rwy’n teimlo’n gryf ynghylch hygrededd y diwydiant a chyfrifoldeb y bobl sy’n gweithio ynddo i gynnal yr egwyddor honno.

“Rwy’n cytuno gydag Arlywydd yr UDA Barack Obama pan mae’n dweud fod gennym broblemau gwirioneddol o’n blaen fel cymdeithas os yw’r llinell  rhwng y gwirionedd a ffantasi yn cael ei ddrysu.

"Dylem oll ymrwymo i sicrhau’r ffeithiau cyn penderfynu coelio straeon newyddion maleisus o ffynhonnellau amheus.”

Rhannu |