Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Tachwedd 2016

Trac sgiliau beicio mynydd newydd yng Nghanolbarth Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu ardal sgiliau beicio mynydd newydd yn ei ganolfan ymwelwyr boblogaidd yng Nghanolbarth Cymru.

Mae gan Fwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth, eisoes lwybrau cerdded, llwybrau beicio mynydd, rhedeg, cyfeirannu a llwybrau marchogaeth.

Nawr, bydd y trac pwrpasol newydd hwn yn gyfle i bobl yr ardal ac ymwelwyr o bob oedran ymarfer reidio beic mynydd a pherffeithio eu techneg cyn mynd i’r afael â’r llwybrau hirach mwy heriol.

Meddai Gareth Owen, Rheolwr Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym yn falch iawn o gael gofalu am safle mor arbennig lle gall pobl wneud gweithgareddau egnïol, cadw’n iach a mwynhau campfa byd natur.

“Bydd gan yr ardal newydd hon nifer o ddolennau lle gall reidwyr o bob safon, gan gynnwys dechreuwyr, fwynhau eu hunain ac ymarfer sgiliau hanfodol.

“Bydd y gwaith yn dechrau ar ddydd Llun (21 Tachwedd). Rydym yn gobeithio y bydd y gwaith wedi gorffen erbyn y Nadolig ond bydd hynny wrth gwrs yn ddibynnol ar y tywydd.

“Mae hwn yn ychwanegiad ardderchog at yr holl gyfleusterau eraill yr ydym yn eu cynnig yma ar safle ysblennydd Bwlch Nant yr Arian.”

A bydd y trac newydd yn cael ei adeiladu ar dirwedd sy’n araf ddatblygu.

Dair blynedd yn ôl, cafodd y rhan fwyaf o’r coed o amgylch y ganolfan ymwelwyr eu torri i arafu lledaniad clefyd o'r enw Phytophthora ramorum sy’n ymosod ar goed llarwydd.

Erbyn heddiw fodd bynnag mae mwy na 12,000 o goed, ac amrediad eang o rywogaethau, wedi cael eu hailblannu ac mae CNC yn parhau i blannu mwy o goed yn yr ardal.

Meddai Gareth: “Mae’r safle dan sylw wedi cael ei ddewis yn ofalus fel nad yw’n effeithio ar yr olygfa dros y llyn.

“Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd yr ardal yn cael ei thirlunio a bydd coed yn cael eu plannu o amgylch y trac."

Y trac newydd hwn yw’r ychwanegiad diweddaraf at y cyfleusterau o safon fyd-eang y mae CNC yn eu darparu ar gyfer beicwyr mynydd ym mhob rhan o Gymru.

Mae Bwlch Nant yr Arian yn adnabyddus hefyd fel man bwydo barcudiaid, a daw 150 o farcudiaid yno bob dydd at y llyn i gael eu bwydo – golygfa wefreiddiol.

Mae’n bosibl i unrhyw un ganfod sut y mae’r gwaith yn dod yn ei flaen a chael y newyddion diweddaraf drwy ddilyn Bwlch Nant yr Arian ar Facebook, neu drwy ymweld â gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Rhannu |