Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Tachwedd 2016

Cyhoeddi sefydlu Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol newydd

Datgelodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams heddiw fod academi newydd wedi’i sefydlu sef Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol.

Bydd yr academi newydd yn gweithredu o hyd braich i Lywodraeth Cymru gyda’r nod o sicrhau bod yr holl arweinyddion o fewn y system addysg yng Nghymru yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth gywir i fod o fudd i ddisgyblion.

Bydd hefyd yn helpu i sicrhau y gall ysgolion ddarparu’r cwricwlwm newydd a gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru.

Cyn-brif arolygydd Estyn, Ann Keane, fydd yn arwain ar y gwaith cychwynnol i sefydlu’r academi a bydd yn gweithio gyda nifer o arbenigwyr sy’n cael eu parchu yn eu meysydd.

Bydd yr Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol yn canolbwyntio i ddechrau ar anghenion ein cenhedlaeth nesaf o benaethiaid, gan gynnwys:

  • Sicrhau bod penaethiaid wedi’u paratoi’n dda am eu rôl.
  • Ystyried strwythur cymwysterau penaethiaid gan gynnwys y cymwysterau CPCP.
  • Datblygu llwybrau gyrfa i’r unigolion hynny sydd am fod yn benaethiaid a chefnogi penaethiaid newydd yn ystod eu blynyddoedd cyntaf yn y rôl honno.
  • Gweithio gyda phenaethiaid profiadol a llwyddiannus i helpu i greu grŵp o arweinwyr all helpu i hyrwyddo arferion gorau mewn ysgolion.

Dywedodd Kirsty Williams: “Fy mlaenoriaethau yw cael yr hanfodion yn gywir – caniatáu i benaethiaid arwain ac i athrawon addysgu.

"Rydw i am weithio’n agos â’r proffesiwn i helpu athrawon i berfformio ar y safon orau bosib gan wella safle’r proffesiwn cyfan.

"Heb athrawon brwdfrydig, medrus sy’n cael eu parchu allwn ni ddim â chyflawni dim.

”Dyna pam mae’r academi yma mor bwysig. Bydd yn gyfrwng i ddatblygu doniau arweinyddol yn awr ac i’r dyfodol er lles Cymru a bydd yn sicrhau y gall pob ysgol gyflwyno ein cwricwlwm newydd.

“Fy ngweledigaeth yw cryfhau arweinyddiaeth a gwneud yn siŵr bod mwy o gysondeb ar draws ein hysgolion.

"Bydd hyn yn golygu sicrhau bod ein hysgolion, ein hawdurdodau lleol, y consortia rhanbarthol a’n prifysgolion yn gweithio gyda’i gilydd.

"Mae angen y sgiliau a’r wybodaeth gywir ar benaethiaid ein hysgolion er mwyn arwain mewn byd sy’n newid fel y gallwn sicrhau bod ein disgyblion yn derbyn yr addysg orau bosibl.

“Bydd hyn yn golygu creu cyfleoedd datblygu sydd wedi’u cynllunio’n dda a dysgu gan y gorau yn y byd. Mae’n gam pwysig yn ein cenhadaeth genedlaethol o sicrhau bod ein system gyfan yn parhau ar hyd y llwybr i wella.”

Dywedodd Ann Keane: “Rwy’n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i mi gadeirio’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen a fydd yn datblygu ei brîff i ddatblygu’r Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol.

"Mae’n dasg bwysig, yn arbennig felly yng nghyd-destun y newidiadau ehangach sy’n digwydd yn ein system addysg mewn perthynas â chwricwlwm yr ysgol a chymwysterau.

"Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r grŵp a hefyd â’r sector addysg i greu rhywbeth gyda’n gilydd a fydd yn hybu ac yn hyrwyddo gwella.”

Y disgwyl yw y bydd y grŵp cyntaf o benaethiaid sydd eisoes yn gweithio yn y rôl honno a phenaethiaid y dyfodol yn gallu manteisio ar y rhaglenni ym mis Medi 2017.

Rhannu |