Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Tachwedd 2016

Gwefan Gymraeg newydd i helpu dioddefwyr iechyd meddwl

Lansiwyd gwefan newydd http://meddwl.org ddydd Iau, 17 Tachwedd, sydd yn cynnwys gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl yn Gymraeg.

Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl, ble i gael cymorth yn Gymraeg, fforwm drafod i bobl sgwrsio a rhannu profiadau a chyngor a straeon perthnasol o’r wasg.

Meddai Hedd Gwynfor, un o sylfaenwyr y wefan: “Mae ychydig o ddeunydd Cymraeg ar gael ar hyn o bryd, ond mae’n anodd dod o hyd iddo.

"Bwriad y wefan felly yw dod â’r holl wybodaeth sydd ar gael yn Gymraeg ynghyd i un lle.

"Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth ar y wefan yn bethau a oedd ar gael eisoes mewn llefydd gwahanol ar-lein, ond mae peth gwybodaeth newydd gan elusennau nad oedd ar-lein o’r blaen.

"Mae’r wefan hefyd yn cynnwys adran ‘Myfyrdodau’, sydd yn gyfle i bobl rannu eu profiadau yn Gymraeg a fydd gobeithio o ddefnydd i eraill.

"Ein gobaith yn yr hirdymor yw helpu i sicrhau bod elusennau a mudiadau iechyd meddwl yn darparu mwy o ddeunyddiau iechyd meddwl yn Gymraeg.

"Mae’r prinder gwasanaethau a deunyddiau iechyd meddwl yn Gymraeg yn broblem fawr.

"Nid yw enwau Cymraeg llawer o’r cyflyrau yn gyffredin hyd yn oed felly rydyn ni’n gobeithio bydd y wefan yn ffordd o fynd i’r afael â’r broblem hon.

"Mae’n bwysig bod dioddefwyr yn cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn yr iaith sydd fwyaf cyfforddus iddynt."

Rhannu |