Mwy o Newyddion
Siwan Dafydd o Landeilo yw Llywydd newydd Urdd Gobaith Cymru
Siwan Fflur Dafydd o Landeilo, Sir Gaerfyrddin fydd Llywydd mudiad ieuenctid Urdd Gobaith Cymru ar gyfer 2016/17. Hi hefyd fydd Cadeirydd Bwrdd Syr IfanC, fforwm ieuenctid genedlaethol yr Urdd, am y flwyddyn.
Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gymraeg Teilo Sant ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, mae Siwan bellach ar ei hail flwyddyn yn astudio hanes ym Mhrifysgol Birmingham, ac yn aelod brwd o Gymdeithas Gymraeg Birmingham lle mae hi’n gobeithio helpu sefydlu Aelwyd newydd yr Urdd.
Gan ymateb i’w phenodiad, dywedodd Siwan: “Mae’n fraint cael bod yn llywydd ar fudiad sy’n rhoi gymaint o gyfleoedd gwych i bobl ifanc.
"Un o’r pethau gorau am yr Urdd yw’r ffaith ei bod yn cydnabod bo gennym ni fel pobl ifanc lais, a bod sylw yn cael ei roi i’r llais hwnnw, oherwydd ar ddiwedd y dydd, heb y bobl ifanc ni fyddai’r Urdd yn bodoli.
"Bu’r Urdd yn rhan enfawr o fy mywyd, ac rydw i wedi bod ymhob Eisteddfod yr Urdd ers fy ngeni, gan gystadlu ynddynt ers yn 6 oed tan y llynedd.
"Gallaf ddweud â’m llaw ar fy nghalon bod bod yn rhan o’r Urdd wedi rhoi hyder a chyfleoedd amhrisiadwy i mi, gan alluogi fi i wneud ffrindiau dros Gymru gyfan.
"Roedd cymryd rhan yn sioe gynradd Pren Braf, adeg Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2007 yn brofiad fydda i’n ei drysori am byth.
"Mi fydd hi’n dasg anodd iawn bod yn Lywydd mor effeithiol â Dan, ond rydw i’n edych ymlaen yn fawr at y sialens.
"Un peth yr hoffwn ei weld yn digwydd yw bod yr Urdd yn cymryd rhan flaenllaw mewn sgwrs am sefyllfa iechyd meddwl pobl ifanc Cymru.
"Mae hyn yn fater hynod bwysig y mae gen i deimladau cryf yn ei gylch.
"Credaf bod yr Urdd mewn lle perffaith i fedru codi ymwybyddiaeth, a gwneud gwahaniaeth, gan sicrhau bod ein aelodau ifanc yn gwybod ei fod yn iawn i drafod y materion sydd yn pery gofid iddyn nhw.
Mae sawl her yn wynebu pobl ifanc Cymru heddiw - rhai yn codi yn sgîl gadael Ewrop. Credaf ei bod hi’n allweddol ein bod fel pobl ifanc yn sefyll yn gadarn yn erbyn unrhyw ragfarn neu feirniadaeth ar sail hîl neu ryw, ac yn mynnu bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal â chyda pharch.
"Yn fy marn i mae’r Urdd yn fudiad pwysig a all uno a thynnu pobl ifanc at ei gilydd heb wahaniaethu ar sail unrhyw beth.”
Mae Siwan yn olynu Dan Rowbotham o Dregaron yn y Lywyddiaeth â’r Gadeiryddiaeth.
Yn ystod ei flwyddyn fel Llywydd, llwyddodd Dan i gyflawni sawl peth gan gynnwys graddio o’r Brifysgol, ennill Gwobr Merêd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cyrraedd y tri uchaf yng ngwobr Arweinydd Ifanc y Flwyddyn a dechrau ar ei swydd llawn amser cyntaf.
Fel dywedodd Dan: “Mae ‘di bod yn flwyddyn brysur dros ben, yn un i mi fwynhau’n fawr, y bydda i’n ei drysori am byth ac yn un yr ydw i’n hynod ddiolchar i’r Urdd amdani.
"Bu’r cyfleoedd yn ddiddiwedd, ac maent yn dal i ddod.
"Er na fydda i’n llywydd rhagor, byddaf dal yn rhan o’r mudiad, a’r mudiad yn rhan ohona i.
"Byddaf yn dal ar Fwrdd Syr IfanC, lle mae cyfnod hynod gyffrous i ddod wrth greu Neges Heddwch ac Ewyllys Dda 2017, ynghyd â threfnu’r daith gyntaf i Dŷ’r Urdd yn Hwngari.”
Ychwanegodd Sioned Hughes, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Croeso mawr i Siwan i’w rôl newydd gyda’r Urdd.
"Mae swydd y Llywydd â Chadeiryddiaeth Bwrdd Syr IfanC yn cyd-fynd â’i gilydd, ac yn sicrhau bod llais pobl ifanc yn cael ei roi yng nghalon y mudiad.
"Dwi’n hyderus iawn bod Siwan yn barod am yr her y bydd y flwyddyn sydd ohonni yn ei chynnig iddi hi, ac edrychaf ymlaen at gael gweithio gyda hi dros y misoedd nesaf.
"Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn fawr iawn i Dan yn bersonol ac ar ran yr Urdd am ei holl waith caled dros ei gyfnod yn y Lywyddiaeth â’r Gadeiryddiaeth, rwyf wedi mwynhau cydweithio gyda fo’n fawr, edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag ef yn arbennig ar Fwrdd Syr IfanC a thrwy ei waith gwirfoddol gyda’r mudiad a dymunwn pob lwc iddo yn ei swydd fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Pob lwc i’r dyfodol Dan.”