Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Tachwedd 2016

Synod Sanctaidd i gadarnhau etholiad Esgob Tyddewi

Bydd esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn cwrdd mewn Synod Sanctaidd ar ddiwedd y mis i gadarnhau etholiad Esgob newydd Tyddewi.

Cafodd y Canon Joanna Penberthy, sydd ar hyn o bryd yn Rheithor Glan Ithon (seiliedig yn Llandrindod) ei hethol gan goleg etholiadol yr Eglwys ar 2 Tachwedd.

Caiff ei hetholiad ei gadarnhau yn y Synod Sanctaidd a gynhelir yn ystod gwasanaeth Hwyrol Weddi yng Nghadeirlan Llandaf am 6pm ar 30 Tachwedd.

Mae'r Synod Sanctaidd yn cynnwys y pum esgob esgobaethol arall yng Nghymru.

Yn ystod y cyfarfod, sydd ar agor i bawb, byddant yn gwirio y cynhaliwyd yr etholiad yr esgob yn gywir ac na chyflwynwyd unrhyw wrthwynebiadau.

Dywedodd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru: "Mae Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob etholiad am esgob gael eu cadarnhau gan yr esgobion eraill yn cwrdd mewn Synod Sanctaidd.

"Bydd hwn yn gyfarfod cyhoeddus ac os byddai unrhyw aelod o'r Eglwys yng Nghymru yn dymuno tynnu unrhyw fater i sylw'r esgobion yng nghyswllt yr etholiad hwn am esgob, fe'u gwahoddir i fynychu'r cyfarfod yn bersonol."

Yn amodol ar gadarnhau ei hetholiad, caiff Esgob newydd Tyddewi wedyn ei chysegru gan yr Archesgob yng Nghadeirlan Llandaf ar 21 Ionawr.

Rhannu |