Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Tachwedd 2016

Ffermwr yn helpu cwsmeriaid Kensington i gael blas ar gynnyrch Cymru

Marchnad Whole Foods nodedig Kensington, sy’n gyrchfan i enwogion a phen-cogyddion, oedd y lleoliad ar gyfer y fenter farchnata ddiweddaraf gan Hybu Cig Cymru (HCC).

Am ddiwrnod cyfan, bu staff HCC yn paratoi samplau blasus o Gig Oen Cymru PGI i gwsmeriaid, a rhoi cyfle iddynt sgwrsio gydag un o’r ffermwyr oedd yn gyfrifol am y cig oen oedd ar y silffoedd; Rowland Pritchard o gwmni Gower Salt Marsh Lamb ger Abertawe.

Bu’r siop ffasiynol yn Kensington yn gwerthu cynnyrch o fusnes Mr. Pritchard a ffermydd cyfagos yn ardal Abertawe ers peth amser, ac roedd y digwyddiad blasu yn gyfle i gyflwyno mwy fyth o gwsmeriaid i flas a hyblygrwydd nodedig Cig Oen Cymru.

Fel rhan o’r digwyddiad, cafodd cwsmeriaid Kensington hefyd y cyfle i flasu pryd o gig dafad (mutton), wedi ei goginio mewn tagine Morocaidd.

Mae’r cig yma wedi dod yn fwy poblogaidd yn ddiweddar, yn rhannol oherwydd yr ymgyrch ‘Dadeni Cig Dafad’, a gefnogir gan HCC a phartneriaid eraill o fewn y diwydiant cig coch.

“Mae’n ŵyn ni yn cael eu magu ar y corstiroedd yn ardal gogledd Penrhyn Gŵyr. Mae’r amgylchedd naturiol hwn yn rhoi blas godidog i’r cig,” meddai Rowland Pritchard.

“Mwynheais y cyfle i siarad â’r cwsmeriaid yn Llundain am darddiad y cig; mae hi mor bwysig i gynifer o bobl i wybod am ei safon a’i gefndir, a’r safonau uchel sy’n cael eu cynnal ym mhob rhan o’r broses."

“Rwy’ wrth fy modd fod HCC a Whole Foods Market wedi trefnu’r digwyddiad hyrwyddo yma yn Kensington,” ychwanegodd Mr. Pritchard. “Mae’n glir fod brwdfrydedd mawr am Gig Oen Cymru PGI ymhlith cwsmeriaid Llundain.

"Rwy’n gobeithio y gallwn barhau i gynyddu gwerthiant, adeiladu ar y berthynas gref sydd gennym, a hwyrach gweld cig dafad ar y silffoedd ochr-yn-ochr â chig oen cyn bo hir.”

“Mae Cig Oen Cymru PGI yn gynnyrch premiwm, sy’n haeddu ei le ymhlith cynnyrch o safon mewn manwerthwr fel Whole Foods Kensington," meddai Swyddog Defnyddwyr HCC Elwen Roberts.

"Trwy ddigwyddiadau fel hyn ry’n ni’n gobeithio tyfu’r brand ymhellach yn Llundain.

"Roedd hefyd yn gyfle da i dynnu sylw at gig dafad o Gymru, a gafodd groeso cynnes gan y rheiny a’i blasodd. Roedd nifer am wybod mwy am sut i goginio’r cig blasus hwn.”

Llun: Rowland Pritchard o gwmni Gower Salt Marsh Lamb ger Abertawe ac Elwen Roberts, HCC ym Marchnad Whole Foods, Kensington

Rhannu |