Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Awst 2011

S4c yn lansio Panel Pobl Cymru

Mae S4C yn gwahodd y cyhoedd i ymuno â phanel newydd er mwyn rhoi eu barn ar raglenni a gwasanaethau’r Sianel - gyda’r bwriad o ddefnyddio’r adborth i helpu i gynllunio a datblygu at y dyfodol.

Lansiwyd Panel Pobl Cymru S4C yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ddydd Iau gan Brif Weithredwr S4C, Arwel Ellis Owen.

Mae’r Sianel yn awyddus i glywed wrth bobl o bob rhan o Gymru ac o bob math o gefndir sydd â diddordeb mewn ymaelodi â’r panel.

Bydd angen 100 o bobl i ymuno â’r panel am gyfnod cychwynnol o 12 mis. Bydd y panel yn cwrdd yn rheolaidd mewn gwahanol rannau o Gymru i drafod ystod eang o bynciau yn ymwneud â gwaith S4C.

Mae S4C am glywed barn dysgwyr yr iaith Gymraeg a Chymry di-gymraeg yn ogystal â phobl sy’n rhugl yn y Gymraeg.
Mae’r Sianel am wybod barn gwylwyr cyson yn ogystal â rhai sy’n gwylio’n achlysurol neu sydd ddim yn gwylio S4C o gwbl.

Cyfrifoldeb cwmni ymchwil farchnata Beaufort fydd cyfansoddiad terfynol y panel a’r dull o wneud yr ymchwil.

Bydd cwmni Beaufort yn gofyn i aelodau’r panel gymryd rhan mewn trafodaethau cyson yn eu hardaloedd eu hunain, lle ceir cyfle i siarad â chynhyrchwyr rhaglenni S4C, a chymryd rhan mewn arolygon yn achlysurol.

I ymuno neu i gael mwy o wybodaeth am y panel, ewch i www.beaufortresearch.co.uk/S4C neu ffoniwch Beaufort ar eu rhif cost leol: 0330 123 9338.

“Mae S4C yn mynd trwy gyfnod o newid ac yn awyddus i wylwyr ar draws Cymru i’w helpu i ddatblygu’r rhaglenni a’r gwasanaethau gorau at y dyfodol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl fedru dweud eu barn a’n cynorthwyo i gynllunio dyfodol S4C,” meddai Arwel Ellis Owen.

“Mae hwn yn brosiect hynod o ddiddorol gan ein bod yn gwahodd y croes-doriad mwyaf posib o’r cyhoedd yng Nghymru i gymryd rhan. Rydym yn awyddus i fod yn Sianel sy’n berthnasol i holl bobl Cymru ac mae hwn yn rhan o’r broses o ymestyn ein hapel yn fwy fyth.”

Llun: Arwel Ellis Owen

Rhannu |