Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Tachwedd 2016

Apêl Nadolig anfonwch anrheg Elusennau Iechyd Hywel Dda

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn lansio apêl Nadolig newydd sbon, Anfonwch Anrheg er mwyn cefnogi’r gwasnaethau chwarae yn ysbytai Bronglais, Glangwili a Llwynhelyg.

Bwriad Anfonwch Anrheg yw ceisio sicrhau Nadolig llawen i blant a phobl ifanc sy’n treulio’r ŵyl yn yr ysbyty.

Mae’r apêl yn annog y cyhoedd i edrych ar restr yr elusen ar wefan amazon.co.uk a phrynu anrheg i’r gwasnaethau chwarae.

Mae modd gweld y rhestr drwy chwilio am Hywel Dda ar amazon. Mae’r rhestr yn cynnwys dewis eang o degannau ac anrhegion yn amrywio o £1 i £50.

Mae Gwasanaethau Chwarae yn gloywi cyfnodau plant a phobl ifanc mewn ysbytai drwy gynnig sesiynnau chwarae therapiwtig. Mae’r anrhegion hyn yn adnoddau allweddol i sicrhau profiad positif yn yr ysbytai.

Meddai Sandra Jones, Rheolwr y Gwasanaethau Chwarae: “Mae’r apêl hwn yn ffordd wych o bwysleisio rôl y gwasanaethau rydym yn ei gynnig.

"Bydd yr anrhegion yn ddull o sicrhau bod arhosiad plant yn yr ysbyty mor gyffyrddus a phosib a bydd y teganau yn ffordd o’i diddanu yn ystod eu triniaeth.

"Weithiau gall plant dreulio amser hir yn yr ysbyty ac rydym yn ceisio gwneud yr amser hynny mor normal a phosib iddynt gyda gemau a theganau a phethau cyfarwydd.

"Bydd yr apêl yn ein galluogi i gynnyg y lefel uchaf o wasanaeth ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob anrheg.”

Meddai Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn i lansio apêl Anfownch Anrheg gyda’r bwriad o roi gwên ar wynebau plant sy’n treulio cyfnod y Nadolig yn yr ysbyty.

"Mae pob anrheg yn adnodd bwysig i’r tîm gwasanaethau chwarae er mwyn cynnal sesiynnau therapiwtig i sicrhau fod plant yn gwella mor fuan a phosib.”

Bydd yr anrhegion yn cael eu dosbarthu i ysbytai Bronglais, Glangwili a Llwynhelyg.

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn elusen gofrestredig sy’n cefnogi staff, cleifion a gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Rhannu |